Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhwydwaith Hyfforddi Powys

Beth yw Hyfforddi?

Ar hyn o bryd, mae gan Gyngor Sir Powys tua 20 o hyfforddwyr personol mewnol a hyfforddwyr cyswllt sy'n gweithio fel bwrdd seinio i alluogi unigolion i gyflawni eu nodau a goresgyn rhwystrau personol. Mae'r holl hyfforddwyr hyn yn gymwys ac yn gweithredu o fewn "Rhwydwaith Hyfforddi Powys".


Gall hyfforddwr helpu pobl i ddod yn fwy effeithiol yn eu rolau, i gael eu dyrchafu, i ddod yn arweinwyr gwell neu i gyflawni nodau gyrfa.


Nid yw hyfforddwr o anghenraid yn rhywun o'ch adran ac mae'n bosibl nad oes ganddo/ganddi unrhyw ddealltwriaeth o'ch maes gwaith. Y mae, fodd bynnag, yn arbenigwr mewn gofyn y cwestiynau iawn i'ch galluogi i ddarganfod drosoch eich hunain pa gamau mae angen i chi eu cymryd er mwyn llwyddo.


Bydd yr hyfforddwr a'r hyfforddai yn cytuno rhyngddynt yn y cyfarfod cyntaf pa mor aml a pha mor hir fydd y sesiynau hyfforddi. Mae'r sesiynau yn gyfrinachol. Byddwch yn trafod meysydd yr hoffech eu datblygu ac yn canfod beth sy'n eich atal rhag gwneud hyn. Mae'r hyfforddwyr wedi'u hyfforddi i fod yn heriol a byddant yn eich helpu i bennu terfynau amser i'w cyrraedd.


Mae datblygu diwylliant hyfforddi wedi cael cymeradwyaeth ar y lefelau uchaf yn yr awdurdod, a'r Uwch-dîm Rheoli yn hyrwyddo hyfforddi fel arf datblygu.
 
Buddion i'r sefydliadau (Cyngor Sir Powys/Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a sefydliadau partner):

  • Sicrhau y rhoddir hyfforddiant cadarn ac effeithiol i hyfforddwyr.
  • Codi a hyrwyddo statws hyfforddwyr cymwys ym Mhowys a'r maes hyfforddi proffesiynol ehangach.
  • Darparu cyfleoedd i ryngweithio â gweithwyr proffesiynol / sefydliadau hyfforddi allanol er mwyn i hyfforddwyr adnewyddu ac ymestyn eu sgiliau a'u gwybodaeth hyfforddi proffesiynol.
  • Sicrhau y caiff arferion hyfforddi o fewn y garfan eu rheoleiddio'n barhaus, yn annibynnol ac at safon uchel.
  • Sicrhau bod adolygiadau cyfnodol o hyfforddi ym Mhowys yn cysylltu â'n hyfforddwyr cymwys.

 

Os hoffech wybod mwy am ein Gwasanaeth Hyfforddi, cysylltwch â powyscoachingnetwork@powys.gov.uk