Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Archwiliadau Hylendid Bwyd

Caiff busnesau sy'n cynhyrchu neu'n paratoi bwyd i'r cyhoedd eu harchwilio i sicrhau fod eu bwyd yn ddiogel i'w fwyta. Bydd pa mor aml y bydd arolygwyr yn ymweld yn dibynnu ar y math o fusnes a'i record flaenorol. Caiff rhai eiddo bwyd eu harchwilio o leiaf bob 6 mis, gydag eraill yn cael eu harchwilio yn llai aml.

Os ydych yn cynhyrchu neu baratoi bwyd i'r cyhoedd, mae Rheoliad EC (Rhif) 852/2004 (Hylendid Nwyddau Bwyd), yn gofyn i chi:

  • ddynodi peryglon bwyd posibl
  • penderfynu pa un o'r peryglon hynny sydd angen eu rheoli i sicrhau fod bwyd yn ddiogel
  • rhoi gweithdrefnau rheoli a monitro effeithiol ar waith i atal y peryglon hyn rhag achosi niwed i ddefnyddwyr
  • cadw cofnodion ysgrifenedig o'ch monitro 
  • adolygu eich peryglon a'ch gweithdrefnau monitro yn rheolaidd.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn a ddisgwylir ohonoch yma.

Bydd swyddogion hefyd yn archwilio ac yn ystyried cydymffurfiaeth gyda gweithdrefnau Diogelwch a Hylendid Bwyd (gan gynnwys arferion a gweithdrefnau trin a thrafod bwyd, a rheoli tymheredd), a strwythur y sefydliad (gan gynnwys glanweithdra, cynllun, cyflwr y strwythur, goleuadau, awyru, rheoli pla, cyfleusterau ac ati).

Gorfodaeth

Bydd ein swyddogion yn edrych ar sut mae'r busnes yn cael ei redeg i ddynodi peryglon posibl ac i sicrhau fod busnesau yn dilyn y gyfraith. Gallant gymryd camau gorfodaeth pan fydd swyddogion yn meddwl fod hyn yn angenrheidiol er mwyn diogelu'r cyhoedd. Mae camau gweithredu yn amrywio o gais ffurfiol am welliannau hyd at feddiannu bwyd neu gyflwyno rhybuddion gwahardd brys, a all arwain at gau busnes ar unwaith.

 

Sgoriau Hylendid Bwyd

Rhoddir sgôr i fusnesau bwyd yn dilyn archwiliad hylendid bwyd arferol. Mae'r sgôr hwn yn dangos pa mor dda mae busnes yn cydymffurfio â chyfraith hylendid bwyd ar adeg yr archwiliad.