Sgorau glendid bwyd - Gwybodaeth ar y cynllun
Rhoddir sgôr i fusnesau bwyd yn dilyn archwiliad glendid bwyd rheolaidd. Mae'r sgôr yn dangos pa mor dda mae busnes yn cydymffurfio â chyfraith glendid bwyd ar adeg yr archwiliad.
Wrth gynnal archwiliadau glendid bwyd, bydd swyddog yn ystyried y meysydd canlynol, a fydd wedi hynny yn penderfynu sgôr glendid bwyd y busnes:
- Glendid - sut mae bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio, ei ail-wresogi, ei oeri a'i storio.
- Cyflwr strwythur yr adeiladau - gan gynnwys glanweithdra, cynllun, goleuadau, awyru a chyfleusterau eraill.
- Sut mae diogelwch bwyd o fewn y busnes yn cael ei reoli a sut mae'r busnes yn cofnodi'r hyn y bydd yn ei wneud i sicrhau bod bwyd yn ddiogel.
Mae busnesau bwyd yn cael eu sgorio ar raddfa. Ar waelod y raddfa mae '0' - sy'n golygu bod angen gwelliant ar frys. Ar dop y raddfa mae '5' - sy'n golygu fod y safonau glendid yn dda iawn.
Rhaid i fusnesau bwyd arddangos y sticer sy'n dangos eu sgôr cyfredol, mewn lle amlwg wrth y fynedfa i'r eiddo. Rhaid i fusnesau ddweud hefyd wrth eu cwsmeriaid os byddant yn gofyn beth yw eu sgôr, er enghraifft os bydd cwsmer yn archebu pryd poeth parod dros y ffôn.
Mae methu ag arddangos sgôr glendid bwyd dilys yn drosedd. Gall swyddogion gyflwyno rhybuddion dirwy penodedig i fusnesau sydd ddim yn dangos sgôr dilys. Bydd rhybudd dirwy penodedig yn cynnig y cyfle i unigolyn dalu dirwy o £200 o fewn cyfnod o 28 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd y rhybudd dirwy, neu ddirwy is o £150 os gwneir taliad o fewn 14 diwrnod.
Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau