Mae rheolau llym sy'n rheoli symud anifeiliaid fferm er mwyn rhwystro lledaenu clefydau. Rhaid bod modd adnabod pob anifail er mwyn gallu cadw llygad ar eu symudiadau.
Os bydd achos o glefyd, mae'n hanfodol ein bod yn gwybod yn union lle mae'r da byw er mwyn cael mesurau effeithiol i reoli a dileu firysau hynod heintus.
Er mwyn ceisio stopio clefydau rhag lledu, ceir rheolau llym sy'n rheoli dulliau adnabod a symudiadau da byw. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i bawb, hyd yn oed os mai dim ond un o'r anifeiliaid dan sylw sydd gennych.
Mae'r rheolau symud anifeiliaid yn berthnasol i bobl sy'n mynd ag anifeiliaid i sioeau amaethyddol. Rydym wedi llunio
taflen canllawiau (PDF, 115 KB) i drefnwyr sioeau sy'n esbonio'r rheolau - bydd hyn yn berthnasol hefyd os ydych yn mynd ag anifeiliaid fferm i sioeau.
Gofynion hylendid Bwyd a Phorthiant
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canllawiau ar y deddfwriaeth hon.
Mae rhagor o wybodaeth am ofynion sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.