Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Symud ac adnabod anifeiliaid fferm

Mae rheolau llym sy'n rheoli symud anifeiliaid fferm er mwyn rhwystro lledaenu clefydau.  Rhaid bod modd adnabod pob anifail er mwyn gallu cadw llygad ar eu symudiadau.
Image of a lamb

Os bydd achos o glefyd, mae'n hanfodol ein bod yn gwybod yn union lle mae'r da byw er mwyn cael mesurau effeithiol i reoli a dileu firysau hynod heintus.

Er mwyn ceisio stopio clefydau rhag lledu, ceir rheolau llym sy'n rheoli dulliau adnabod a symudiadau da byw.  Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i bawb, hyd yn oed os mai dim ond un o'r anifeiliaid dan sylw sydd gennych.

Gellir lawr lwytho dogfennau trwyddedau symud anifeiliaid oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae'r rheolau symud anifeiliaid yn berthnasol i bobl sy'n mynd ag anifeiliaid i sioeau amaethyddol. Rydym wedi llunio  taflen canllawiau (PDF) [115KB] i drefnwyr sioeau sy'n esbonio'r rheolau - bydd hyn yn berthnasol hefyd os ydych yn mynd ag anifeiliaid fferm i sioeau.

Gofynion hylendid Bwyd a Phorthiant

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canllawiau ar y deddfwriaeth hon.

Mae rhagor o wybodaeth am ofynion sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cyswllt

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: 
    • Sir Brycheiniog, Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Aberhonddu, LD3 7HR
    • Sir Drefaldwyn, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, SY21 7PH
    • Sir Faesyfed, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau