Ymgeisio / Adnewyddu am drwydded parcio i drigolion
Defnyddir cynllun parcio i drigolion mewn ardaloedd lle mae mwy o alw nag o leoedd. Nid ydynt yn gwarantu y byddwch yn cael man parcio, ond maent yn help i reoli parcio i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny.
Os oes gan eich ardal gynllun, gallwch ddefnyddio trwydded ddilys ar bob adeg pan fyddwch yn parcio mewn ardal i drigolion yn unig - os nad oes trwydded gennych, gallwch dderbyn tocyn parcio.
Gallwch gael trwydded os:
Ydych yn byw'n llawn amser mewn cyfeiriad o fewn ardal sy'n gymwys
Yw eich cerbyd wedi'i gofrestru hefyd yn y cyfeiriad hwnnw
Bydd angen i ni weld dogfen V5 y cerbyd i gadarnhau ei fod wedi'i gofrestru i ddeilydd y drwydded yn yr un cyfeiriad. Os oes gennych ddefnydd preifat o gerbyd cwmni sydd heb gofrestru i'ch eiddo, bydd gofyn cael llythyr gan eich cyflogwr at y diben hwn yn hytrach na'r ddogfen V5.
Nid yw trwyddedau yn gwarantu y cewch le o fewn y parth nac yn agos ato/y tu allan i gyfeiriad y trigolion.
Cost
£65 y flwyddyn yw cost y drwydded trigolion. Mae trwyddedau'n dechrau ar y 1af o'r mis. Gallwch wneud cais yn ystod y mis presennol neu'r 2 fis nesaf dilynol.
Dim ond 1 trwydded y gellir ei chyflwyno i bob cyfeiriad.
Petai'r galw am drwydded ddim yn mynd yn fwy na'r lleoedd sydd ar gael o fewn y parthau, mae'n bosibl y bydd ail drwyddedau i drigolion a/neu drwyddedau ymwelwyr yn cael eu cynnig i'w gwerthu. Sylwch y gallai'r Cyngor gyflwyno mwy o drwyddedau na'r lleoedd sydd ar gael ac felly'r cyntaf i'r felin yw'r drefn wrth sicrhau un o'r lleoedd sydd ar gael.
Wedi ymgeisio
Byddwn yn anfon eich trwydded allan trwy'r Post Brenhinol.
Gofynnwn i chi ganiatáu pum diwrnod iddi gyrraedd, a pheidiwch â pharcio yn lle'r preswylydd nes bod y drwydded wedi'i harddangos.
Gallwn dynnu trwydded yn ôl neu ei diddymu unrhyw bryd, a byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw hyn yn digwydd.
Dim ond y trwyddedau gwreiddiol y mae'r Awdurdod hwn yn eu cyhoeddi sy'n ddilys, gall camddefnyddio trwydded arwain at gymryd camau cyfreithiol.
Symud ty
Mae trwyddedau wedi'u cysylltu i gyfeiriad ac ni ellir eu trosglwyddo. Mae'n rhaid i chi ein ffonio ni ar 01597 827465 neu 0345 6076060 a rhowch wybod i ni os ydych chi'n newid eich cyfeiriad fel ein bod yn gallu canslo'r drwydded bresennol. Bydd ad-daliad yn cael ei wneud ar unrhyw fisoedd cyfan sydd ar ôl pan yn talu'r ffi weinyddol o £25.
Os ydych yn symud i dy o fewn ardal cynllun trigolion, peidiwch â thybio y byddwch yn gallu cael trwydded parcio. Siaradwch â phreswylydd presennol neu ffoniwch 0345 155 1004 i wirio.
Gwnewch yn siwr eich bod yn gwneud cais cyn i'ch trwydded bresennol ddod i ben gan adael digon o amser i ni anfon y drwydded newydd atoch. Os byddwch yn parcio heb drwydded, hyd yn oes os ydych yn aros iddi gyrraedd, gallech dderbyn rhybudd tâl atodol o hyd.