Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ymgeisio / Adnewyddu am drwydded parcio i drigolion

Defnyddir cynllun parcio i drigolion mewn ardaloedd lle mae mwy o alw nag o leoedd.  Nid ydynt yn gwarantu y byddwch yn cael man parcio, ond maent yn help i reoli parcio i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny.

Ymgeisio /  Adnewyddu drwydded

Edrychwch i weld a oes gan eich ardal gynllun parcio. 

Os oes gan eich ardal gynllun, gallwch ddefnyddio trwydded ddilys ar bob adeg pan fyddwch yn parcio mewn ardal i drigolion yn unig - os nad oes trwydded gennych, gallwch dderbyn tocyn parcio.

Gallwch gael trwydded os:

  • Ydych yn byw'n llawn amser mewn cyfeiriad o fewn ardal sy'n gymwys
  • Yw eich cerbyd wedi'i gofrestru hefyd yn y cyfeiriad hwnnw

Gwneud cais / adnewyddu trwydded parcio preswylwyr yma

Bydd angen i ni weld dogfen V5 y cerbyd i gadarnhau ei fod wedi'i gofrestru i ddeilydd y drwydded yn yr un cyfeiriad. Os oes gennych ddefnydd preifat o gerbyd cwmni sydd heb gofrestru i'ch eiddo, bydd gofyn cael llythyr gan eich cyflogwr at y diben hwn yn hytrach na'r ddogfen V5.

Nid yw trwyddedau yn gwarantu y cewch le o fewn y parth nac yn agos ato/y tu allan i gyfeiriad y trigolion.

 

Cost

£65 y flwyddyn yw cost y drwydded trigolion. Mae trwyddedau'n dechrau ar y 1af o'r mis. Gallwch wneud cais yn ystod y mis presennol neu'r 2 fis nesaf dilynol.

Dim ond 1 trwydded y gellir ei chyflwyno i bob cyfeiriad.

Petai'r galw am drwydded ddim yn mynd yn fwy na'r lleoedd sydd ar gael o fewn y parthau, mae'n bosibl y bydd ail drwyddedau i drigolion a/neu drwyddedau ymwelwyr yn cael eu cynnig i'w gwerthu. Sylwch y gallai'r Cyngor gyflwyno mwy o drwyddedau na'r lleoedd sydd ar gael ac felly'r cyntaf i'r felin yw'r drefn wrth sicrhau un o'r lleoedd sydd ar gael.

 

Wedi ymgeisio

  • Byddwn yn anfon eich trwydded allan trwy'r Post Brenhinol.
  • Gofynnwn i chi ganiatáu pum diwrnod iddi gyrraedd, a pheidiwch â pharcio yn lle'r preswylydd nes bod y drwydded wedi'i harddangos.
  • Gallwn dynnu trwydded yn ôl neu ei diddymu unrhyw bryd, a byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw hyn yn digwydd.
  • Dim ond y trwyddedau gwreiddiol y mae'r Awdurdod hwn yn eu cyhoeddi sy'n ddilys, gall camddefnyddio trwydded arwain at gymryd camau cyfreithiol.

 

Symud ty

Mae trwyddedau wedi'u cysylltu i gyfeiriad ac ni ellir eu trosglwyddo.  Mae'n rhaid i chi ein ffonio ni ar 01597 827465 neu 0345 6076060 a rhowch wybod i ni os ydych chi'n newid eich cyfeiriad fel ein bod yn gallu canslo'r drwydded bresennol.  Bydd ad-daliad yn cael ei wneud ar unrhyw fisoedd cyfan sydd ar ôl pan yn talu'r ffi weinyddol o £25.

Os ydych yn symud i dy o fewn ardal cynllun trigolion, peidiwch â thybio y byddwch yn gallu cael trwydded parcio. Siaradwch â phreswylydd presennol neu ffoniwch 0345 155 1004 i wirio.

 

Newid eich cerbyd

Gwneud cais am Drwydded Parcio Newydd

Mae tâl gweinyddu o £25 yn daladwy.

 

Adnewyddu trwydded

Gwnewch yn siwr eich bod yn gwneud cais cyn i'ch trwydded bresennol ddod i ben gan adael digon o amser i ni anfon y drwydded newydd atoch. Os byddwch yn parcio heb drwydded, hyd yn oes os ydych yn aros iddi gyrraedd, gallech dderbyn rhybudd tâl atodol o hyd.

 

Cysylltiadau

  • Ebost: parkingpermits@powys.gov.uk  
  • Rhif ffôn: 01597 827465
  • Cyfeiriad: Parking, Powys County Hall, Spa Road East, Llandrindod, LD1 5LG

Dilynwch ni ar:

Eich sylwadau am ein tudalennau