Toglo gwelededd dewislen symudol

Maes parcio Machynlleth

Mae yna un maes parcio talu ac arddangos ym Machynlleth.

Mae Heol Maengwyn (SY20 8DY) yn faes parcio cyfnod hir.

Gellir prynu trwyddedau parcio ar gyfer meysydd parcio cyfnod hir ym Mhowys.

Mae'r maes parcio yn cynnwys mannau parcio ar gyfer pobl anabl ac mae yna beiriannau sy'n cymryd darnau arian.

Ffioedd safonol meysydd parcio

Sylwer bod y rhan fwyaf o'n meysydd parcio am ddim ar gyfer deiliaid bathodynnau glas i bobl anabl pan fyddant wedi'u harddangos yn gywir, fodd bynnag, edrychwch ar y bwrdd am y taliadau, telerau ac amodau.