1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad:Taliadau am gasglu gwastraff swmpus i godi
Darllen mwy

Meysydd parcio'r Trallwng

Welshpool Car Park Image

Gweld y lleoliad ar y map yma. [81KB]

Mae yna dri maes parcio talu ac arddangos yn y Trallwng:

  • Maes parcio'r Seven Stars (SY21 7JH) sy'n faes parcio cyfnod byr (hyd at 2 awr) ar gyfer ceir modur yn unig.
  • Maes parcio Stryd Aberriw (SY21 7SL) sy'n faes parcio cyfnod hir ar gyfer pob math o gerbydau.
  • Maes parcio Stryd yr Eglwys (SY21 7DD) sy'n faes parcio cyfnod hir ar gyfer pob math o gerbydau.

Gellir prynu trwyddedau parcio ar gyfer meysydd parcio cyfnod hir ym Mhowys.

Mae'r maes parcio yn cynnwys mannau parcio ar gyfer pobl anabl ac mae yna beiriannau sy'n cymryd darnau arian.

Ffioedd safonol meysydd parcio

Yn ogystal â'r ffioedd safonol, mae hefyd yn bosib talu am docyn dros nos.  Mae'r rhain yn £5 ar gyfer pob cerbyd ac eithrio ceir modur.

*Sylwer bod y rhan fwyaf o'n meysydd parcio am ddim ar gyfer deiliaid bathodynnau glas i bobl anabl pan fyddant wedi'u harddangos yn gywir, fodd bynnag, edrychwch ar y bwrdd am y taliadau, telerau ac amodau.

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu