Diben y Polisi Anabledd
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio anabledd fel 'nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hir-dymor ar allu rhywun i ymgymryd â gweithgareddau o ddydd i ddydd'.
Mae'n cynnwys ystod o anawsterau a chyflyrau corfforol a meddyliol sy'n effeithio ar nifer o'r boblogaeth.
Ein nod yw sicrhau fod y gymuned, y gweithlu ac ymgeiswyr posibl am swyddi yn ymwybodol o'n ymrwymiad i sicrhau fod pobl sydd ag anableddau yn cael cyfle cyfartal o fewn y broses recriwtio, a bod gweithredu positif yn digwydd lle bod angen i gefnogi pobl sydd ag anableddau.
Anogir ceisiadau gan bobl sydd ag anableddau, a bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i weithio yn ôl anghenion pobl wrth iddynt gymryd rhan yn y broses recriwtio ac wrth gymryd swyddi.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau