Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Diben y Polisi Anabledd

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio anabledd fel 'nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hir-dymor ar allu rhywun i ymgymryd â gweithgareddau o ddydd i ddydd'.

Mae'n cynnwys ystod o anawsterau a chyflyrau corfforol a meddyliol sy'n effeithio ar nifer o'r boblogaeth.

Ein nod yw sicrhau fod y gymuned, y gweithlu ac ymgeiswyr posibl am swyddi yn ymwybodol o'n ymrwymiad i sicrhau fod pobl sydd ag anableddau yn cael cyfle cyfartal o fewn y broses recriwtio, a bod gweithredu positif yn digwydd lle bod angen i gefnogi pobl sydd ag anableddau.

Anogir ceisiadau gan bobl sydd ag anableddau, a bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i weithio yn ôl anghenion pobl wrth iddynt gymryd rhan yn y broses recriwtio ac wrth gymryd swyddi. 

Cyswllt

  • Ebost: recruitment@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826409
  • Cyfeiriad: Tîm Recriwtio, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau