Ein hymrwymiadau recriwtio
Mae gennym bum ymrwymiad, sef:
- Cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n cwrdd â meini prawf hanfodol swydd wag a'u hystyried yn ôl eu gallu.
- Gofyn i staff sydd ag anableddau, o leiaf unwaith y flwyddyn, beth y gellid ei wneud i sicrhau eu bod yn datblygu a defnyddio'u galluoedd yn y gwaith.
- Gwneud pob ymdrech, pan fydd gweithwyr yn dod yn anabl, i wneud yn siwr eu bod yn gallu aros yn eu gwaith.
- Gweithredu i wneud yn siwr fod gweithwyr allweddol yn datblygu ymwybyddiaeth o anabledd, er mwyn sicrhau fod ymrwymiad y Cyngor yn gweithio.
- Adolygu'r ymrwymiadau a'r hyn sydd wedi'i gyflawni bob blwyddyn, a chynllunio ffyrdd o'u gwella a rhoi gwybod i weithwyr am gynnydd a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae'r ymrwymiadau hyn yn gosod y sylfaen ar gyfer datblygu rhagor o arferion da o fewn y Cyngor.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau