Toglo gwelededd dewislen symudol

Ein hymrwymiadau recriwtio

Mae gennym bum ymrwymiad, sef:

  1. Cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n cwrdd â meini prawf hanfodol swydd wag a'u hystyried yn ôl eu gallu.
  2. Gofyn i staff sydd ag anableddau, o leiaf unwaith y flwyddyn, beth y gellid ei wneud i sicrhau eu bod yn datblygu a defnyddio'u galluoedd yn y gwaith.
  3. Gwneud pob ymdrech, pan fydd gweithwyr yn dod yn anabl, i wneud yn siwr eu bod yn gallu aros yn eu gwaith.
  4. Gweithredu i wneud yn siwr fod gweithwyr allweddol yn datblygu ymwybyddiaeth o anabledd, er mwyn sicrhau fod ymrwymiad y Cyngor yn gweithio.
  5. Adolygu'r ymrwymiadau a'r hyn sydd wedi'i gyflawni bob blwyddyn, a chynllunio ffyrdd o'u gwella a rhoi gwybod i weithwyr am gynnydd a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.


Mae'r ymrwymiadau hyn yn gosod y sylfaen ar gyfer datblygu rhagor o arferion da o fewn y Cyngor.

Cyswllt

  • Ebost: recruitment@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826409
  • Cyfeiriad: Tîm Recriwtio, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau