Arferion da yn y gwaith
Byddwn yn ceisio sicrhau arferion da yn y meysydd canlynol:
- fod gweithwyr sydd ag anableddau yn cael eu derbyn gan yr holl staff;
- fod y polisi recriwtio yn denu ymgeiswyr sydd ag anableddau;
- fod gofynion y swydd yn cael eu hystyried yn hyblyg i alluogi unigolion sydd ag anableddau i'w chymryd;
- nad yw'r drefn ddewis (e.e. ffurflenni cais a chyfweliadau) yn rhoi pobl ag anableddau dan anfantais annheg, a'u bod yn caniatau i bobl sydd ag anableddau i gael eu hystyried yn ôl eu gallu;
- fod gweithwyr sydd ag anableddau yn cael help i setlo i'r gwaith a bod unrhyw anghenion o ganlyniad i'r anabledd yn cael eu harchwilio'n fanwl;
- fod pobl sydd ag anableddau yn gwybod at bwy i fynd os bydd unrhyw anawsterau;
- fod pobl sydd ag anableddau a'u cydweithwyr yn gwybod beth i'w wneud os bydd argyfwng;
- fod pobl sydd ag anableddau yn cael eu hystyried am hyfforddiant a dyrchafiad yn ôl eu gallu;
- fod camau'n cael eu cymryd i helpu pobl sydd ag anableddau i addasu i unrhyw amgylchiadau newydd;
- fod cymorth ymarferol ac ariannol ar gael i addasu safleoedd ac offer, ac i gael offer arbennig.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau