Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Eich cais

Rydym eisiau gwneud yn siwr ein bod yn cwrdd ag anghenion ymgeiswyr sydd ag anableddau lle bynnag y mae hynny'n bosibl. Rhowch wybod i ni os byddai unrhyw un o'r canlynol yn ddefnyddiol:

  • Ffurflen gais print mawr;
  • Gwneud eich cais mewn ffordd wahanol (e.e. ar ffurf clywedol)
  • Cymorth i lenwi'r ffurflen gais

Wrth wneud cais am swydd, fe fyddem yn hoffi gwybod os oes angen unrhyw drefniadau pellach ar gyfer y cyfweliad (e.e. cyfieithu i Iaith Arwyddo neu fanylion mynediad i'r adeilad). Gellir trefnu ymweliad â'r gweithle cyn y cyfweliad i nodi unrhyw anghenion penodol sydd gennych. Bydd hyn yn ein caniatau i ystyried sut i gwrdd â'r gofynion. Gallwch roi'r manylion ar y ffurflen gais, mewn llythyr ar wahân, neu trwy gysylltu â'r adran dros y ffôn os cewch eich gwahodd i gyfweliad.

Cyswllt

  • Ebost: recruitment@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826409
  • Cyfeiriad: Tîm Recriwtio, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau