Toglo gwelededd dewislen symudol

Fetio Cyn Cyflogi

Fel rhan o'i brosesau recriwtio a dethol mwy diogel, mae Cyngor Sir Powys yn gweithredu trefniadau llym wrth fetio cyn cyflogi. Bydd rhaid i bob ymgeisydd gael yr archwiliadau isod.

Datganiad o Gollfarnau Blaenorol

Oherwydd natur y gwaith dan sylw, mae'r swydd rydych yn gwneud cais amdani yn destun Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 Gorchymyn (Eithriadau) 1975 (fel y'i diwygiwyd yn 2013). Mae hyn yn eithrio rhai gweithgareddau sydd wedi'u rheoleiddio (h.y. gwaith gyda phlant, pobl ifanc a/neu oedolion diamddiffyn) o'r Ddeddf hon, ac felly bydd angen i unigolion sydd am weithio gyda'r grwpiau hyn fod yn destun Archwiliad Datgelu a Gwahardd Uwch ymhlith eraill.

Mae'r canllawiau ar archwiliadau DBS ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.

 

Cyngor Sir Powys Polisi ar recriwtio cyn-droseddwyr (PDF) [23KB]

Archwiliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac archwiliad rhestrau gwaharddedig Plant a/neu Oedolion

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sydd am weithio â phlant a/neu bobl ifanc angen Archwiliad DBS Uwch; bydd hyn yn cynnwys archwiliad yn erbyn rhestrau gwaharddedig ar gyfer plant a/neu oedolion lle bo hynny'n briodol.

Os nad yw ymgeisydd fel arfer yn byw yn y Deyrnas Gyfunol neu wedi bod yn byw y tu allan i'r Deyrnas Gyfunol am dros 6 mis, byddwn yn cynnal archwiliad heddlu ychwanegol gyda'r wlad yr ydych yn byw ynddi fel arfer, neu'r wlad fwyaf diweddar.

Defnyddwyr PSN

Bydd gofyn i bawb sy'n defnyddio PSN TG sydd â mynediad i GCSx E-mail, DWIP CIS, Dweud Unwaith, JARD, system Bathodynnau Glas y Llywodraeth Ganolog, Libra Court Bookings a Cofrestru i Bleidleisio gwblhau Gwiriad Sylfaenol os nad ydynt eisoes wedi cael gwiriad DB safonol neu fanwl.

Cyswllt

  • Ebost: recruitment@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826409
  • Cyfeiriad: Tîm Recriwtio, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu