Oes angen help arnoch chi gyda Chyngor Ariannol neu Gefnogaeth Macmillan?
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad pellach ynglŷn â chefnogaeth tuag at Olew Gwresogi ar gyfer eiddo Nad yw ar ar y Grid.
Bydd dau grant gwahanol cyn bo hir.
1. Bydd Grant Un yn gysylltiedig â Gostyngiad Treth y Cyngor (budd-dal), rydym yn aros am ragor o wybodaeth ond byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe unwaith y bydd gennym fanylion llawn.
neu.
2. Grant Dau, yw'r Gronfa Cymorth yn ôl Disgresiwn sydd ar gyfer unrhyw un na fyddai'n gymwys ar gyfer grant Gostyngiad Treth y Cyngor. I wneud cais am y grant hwn, cysylltwch â ni drwy greu atgyfeiriad gan ddefnyddio'r ddolen isod:
Cais am Gyngor Ariannol neu Gefnogaeth Macmillan
Os ydych chi'n denant cyngor, gallwch gysylltu drwy'r ddolen hon: Gwybodaeth am Swyddogion Cymorth Ariannol
Oherwydd nifer yr atgyfeiriadau y byddwn yn eu derbyn, efallai y bydd peth oedi cyn derbyn ymateb.
Gofyn am gyngor ar arian Cais am Gyngor Ariannol neu Gefnogaeth Macmillan
Rydym yn cynnig cyngor a chymorth am ddim a chyfrinachol i chi.
Mae ein tîm hyfforddedig ac achrededig yn gallu cynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth i chi am arian un ai dros y ffôn yn 01597 826618 neu apwyntiad personol yn eich cartref neu yn swyddfa lleol y cyngor, neu yn y gymuned i'ch helpu chi gyda:
- Sut i wneud yn fawr o'ch incwm.
- Budd-daliadau lles; helpu i wneud cais am fudd-daliadau, grantiau lles, cyngor ar eich hawliau a chymorth parhaus
- Helpu i reoli eich costau tanwydd a sut orau i wresogi eich cartref
- Helpu i reoli eich dyledion.
- Trafod eich opsiynau gyda'r ddyled newydd Lle i Anadlu, all roi amser gwerthfawr i chi ddod o hyd i ateb effeithiol a thymor hir ar ddelio â'ch dyledion a'ch helpu chi symud ymlaen.
- Helpu chi reoli eich cyllid trwy gyllidebu'n well.
- Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chymorth Canser Macmillan a'r Adran Gwaith a Phensiynau i gynnig cymorth a chymorth arbenigol ar arian a budd-daliadau i gleifion canser a'u gofalwyr. Gwella’r Daith Ganser ym Mhowys
Newid i Gredyd Cynhwysol
Os ydych yn byw ym Mhowys ac yn derbyn Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant (a ddim yn derbyn Budd-dal Tai), byddwch yn derbyn Hysbysiad Symud Gweinyddol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh) ym mis Ionawr/Chwefror 2024 ymlaen. Darllenwch fwy yma: Credyd Cynhwysol
