Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhoi gwybod am dwyll, llwgrwobrwyo neu lygredd

Mae gennym dîm Twyll sy'n gallu ymchwilio i amheuaeth o dwyll a honiadau eraill sy'n digwydd yn erbyn y pwrs cyhoeddus.

Dyma rai enghreifftiau ond cofiwch roi gwybod i ni am unrhyw un neu fwy o'ch pryderon.

  • Twyll budd-dal Treth y Cyngor
  • Twyll Treth y Cyngor,
  • Twyll bathodynnau glas,
  • Twyll taliadau gofal cymdeithasol, twyll Tai/tenantiaeth,
  • Twyll grant
  • Gallai llygredd fod yn ddangos ffafriaeth i logi ffrindiau neu deulu ar gyfer swyddi'r Cyngor
  • Gallai llygredd fod yn llogi eich cwmni eich hun, neu gwmni sy'n perthyn i gysylltiadau agos neu berthnasau, i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
  • Camddefnyddio gwybodaeth y Cyngor
  • Camddefnyddio deunyddiau'r Cyngor
  • Ffugio neu anwirio cofnodion
  • Gallai llwgrwobrwyo fod yn anrhegion neu'n arian rhodd am ryw fath o fantais o ran gwasanaethau neu gaffaeliadau'r Cyngor
  • Gallai llwgrwobrwyo fod yn dderbyn/cynnig eitemau neu arian, yn gyfnewid am driniaeth ffafriol neu i guddio camymddygiad

Gallwch ddweud wrthym am eich pryderon yn ddienw a byddwn yn cadw unrhyw wybodaeth a roddwch i ni yn gwbl gyfrinachol.

Mae adrodd am dwyll ar-lein yn gyflym ac yn hawdd. Mae'n help os ydych chi'n cwblhau cymaint o wybodaeth berthnasol â phosibl oherwydd mae'n bosibl na fyddwn yn gallu ymchwilio os nad oes gennym ddigon o fanylion.

Gallwch hefyd ein ffonio'n gyfrinachol ar ein llinell dwyll a gadael neges ar y rhif hwn - 01597 827373

Rhowch wybod am Dwyll Ar-lein

Defnyddiwch y ffurflen yma os ydych yn amau bod rhywun yn cyflawni twyll yn erbyn Cyngor Sir Powys, bydd y wybodaeth yn mynd i'r syth at y Tîm Twyll Corfforaethol sy'n trin pob hysbysiad o dwyll fel mater difrifol.

Rhowch wybod am Dwyll Ar-lein yma Ffurflen rhoi gwybod am dwyll

 

Mathau eraill o dwyll

I roi gwybod am dwyll hunaniaeth, troseddau ar-lein neu ar y rhyngrwyd neu dwyll  corfforaethol / unigolion mae gan yr heddlu uned benodol o'r enw Action Fraud sef canolfan genedlaethol ar gyfer rhoi gwybod am dwyll.

Rhoi gwybod i Action Fraud am rywbeth Report something to Action Fraud