Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cwestiynau Cyffredin am Barcio ar y Stryd

C: Ble na ddylwn i adael fy ngherbyd ar briffordd gyhoeddus?

A: Mae Rheol 242 Rheolau'r Ffordd Fawr yn esbonio ei bod yn drosedd gadael eich cerbyd neu'ch trelar mewn safle peryglus neu os yw'n achosi unrhyw rwystr diangen ar y ffordd.

Mae gan yr heddlu bwerau i ddelio â throseddau o'r fath, ac mae ganddynt y pŵer i symud cerbydau o'r briffordd gyhoeddus a'u powndio pan fernir bod hynny'n angenrheidiol.

 

C: Ble na ddylwn i adael fy ngherbyd ar y briffordd gyhoeddus?

A: Mae Rheol 243 Rheolau'r Ffordd Fawr yn cynghori gyrwyr i beidio â stopio neu barcio: -

  • ger mynedfa ysgol
  • Yn unrhyw le y byddech yn atal mynediad i Wasanaethau Brys
  • ar neu wrth ymyl safle bws neu dram neu safle tacsi
  • wrth ddynesu at groesfan rheilffordd /tramffordd
  • gyferbyn â neu o fewn 10 metr (32 troedfedd) o gyffordd, ac eithrio mewn man parcio awdurdodedig
  • yn ymyl pen bryn neu bont grom
  • gyferbyn ag ynys traffig neu (os byddai hyn yn achosi rhwystr) gerbyd arall wedi'i barcio
  • lle y byddech yn gorfodi traffig arall i fynd i lôn tram
  • lle mae'r cwrb wedi'i ostwng i helpu defnyddwyr cadair olwyn a cherbydau symudedd â phŵer
  • o flaen mynedfa i eiddo
  • ar drofa
  • lle y byddech chi'n rhwystro defnydd beicwyr o gyfleusterau beicio

ac eithrio pan orfodir gyrwyr i wneud hynny gan draffig estynedig.

Mae gan yr heddlu ddisgresiwn i benderfynu a yw unrhyw gerbydau sydd wedi'u parcio mewn lleoliad o'r fath yn gyfystyr â pherygl neu rwystr, ac i gymryd camau priodol.

 

C: A yw'n drosedd parcio'n rhannol neu'n gyfan gwbl ar y droetffordd?

A: Mae Rheol 245 Rheolau'r Ffordd Fawr yn esbonio ei bod yn drosedd parcio'n rhannol neu'n gyfan gwbl ar y palmant yn Llundain, ac na ddylai gyrwyr wneud hynny mewn mannau eraill oni bai bod arwyddion yn ei ganiatáu. Gall parcio ar y palmant rwystro a pheri anghyfleustod difrifol i gerddwyr, pobl mewn cadeiriau olwyn neu rai gyda namau gweledol a phobl â phramiau neu gadeiriau gwthio.

Mae gan yr heddlu ddisgresiwn i benderfynu a yw unrhyw gerbydau sydd wedi'u parcio mewn lleoliad o'r fath y tu allan i Lundain yn beryglus neu'n rhwystr i ddefnyddwyr eraill y briffordd, ac i gymryd camau priodol.

 

Q: Alla' i aros ar linellau melyn sengl neu ddwbl i lwytho neu ddadlwytho nwyddau a /neu deithwyr?

A: Mae Rheol 247 Rheolau'r Ffordd Fawr yn esbonio ei bod yn drosedd stopio i lwytho neu ddadlwytho nwyddau a / neu gerbydau lle gwaharddir llwytho fel y nodwyd gan farciau melyn ar y cwrb, ac mae arwyddion unionsyth yn cynghori bod cyfyngiadau ar waith.

no loading at any time
2 yellow markings

 

loading
1 yellow marking

  

Mewn mannau lle na chaiff llwytho ei wahardd, gallai gyrwyr stopio eu cerbyd ar linellau melyn dwbl neu sengl i lwytho a dadlwytho nwyddau a /neu deithwyr, ond os bydd cerbydau'n cael eu gadael heb oruchwyliaeth am resymau heblaw llwytho neu ddadlwytho, gallai naill ai'r heddlu neu Swyddogion Gorfodi Sifil y cyngor sir gyhoeddi hysbysiad cosb benodedig (heddlu) neu hysbysiad taliadau cosb. Os caiff cerbydau eu parcio ar linellau melyn a'u bod yn cael eu hystyried fel rhwystr neu niwsans i ddefnyddwyr eraill y ffordd, gallai'r heddlu ddewis symud y cerbyd a'i bowndio yn lle rhoi hysbysiad cosb benodedig.

Gellir gweld Rheolau'r Ffordd Fawr yn https://www.gov.uk/browse/driving/highway-code-road-safety

 

C: A all deiliaid bathodyn glas barcio ar linellau melyn dwbl?

A: Mae'r cynllun bathodyn glas yn esbonio mai pwrpas y cynllun yw rhoi mwy o fynediad at wasanaethau lleol trwy ganiatáu i ddeiliaid bathodynnau barcio yn ymyl eu cyrchfan naill ai fel teithiwr neu yrrwr, nid darparu parcio am ddim. Mae'r arweiniad yn esbonio y gall deiliaid Bathodyn arddangos eu cloc bathodyn glas a pharcio ar linellau melyn sengl neu ddwbl am hyd at dair awr os yw'n ddiogel gwneud hynny, ond nid lle mae cyfyngiadau, ar lwytho neu ddadlwytho - a nodir gan linellau toriad melyn ar y cwrb a /neu arwyddion ar blatiau. Mae'r arweiniad hefyd yn esbonio bod rhaid i ddeiliaid Bathodyn aros am o leiaf awr ar ôl cyfnod parcio blaenorol cyn y gallwch barcio'r un cerbyd yn yr un ffordd neu ran o ffordd ar yr un diwrnod.

Mae'r canllawiau hefyd yn mynd ymlaen i esbonio nad yw'r Bathodyn Glas yn drwydded i barcio yn unrhyw le. Fel defnyddwyr eraill y ffordd, rhaid i ddeiliaid bathodynnau ufuddhau i reolau'r ffordd, fel y'u nodir yn Rheolau'r Ffordd Fawr. Os bydd cerbydau yn cael eu parcio lle byddent yn achosi rhwystr neu berygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd, gellir dirwyo deiliaid bathodynnau neu gallai eu cerbyd gael ei symud gan yr heddlu.

Gellir gweld yr arweiniad yn https://gov.wales/topics/transport/road-users/bluebadgeschemeinfo/?skip=1&lang=cy

 

C: Pwy sydd â hawl i barcio ar briffordd gyhoeddus?

A: Nid oes gan unrhyw un hawl i barcio ar briffordd gyhoeddus mewn unrhyw leoliad heblaw mewn bae parcio ffurfiol ar y stryd sydd wedi'i farcio ar y briffordd gan yr awdurdod priffyrdd lleol. Rhaid parcio cerbydau o fewn marciau'r bae a rhaid iddynt gydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau a allai fod wedi'u nodi ar yr arwyddion unionsyth a godwyd gan yr awdurdod priffyrdd ochr yn ochr â'r bae parcio neu gerllaw iddo.

 

C: Pwy sy'n gorfodi gwaharddiadau aros a llwytho?

A: Gallai'r heddlu a Phrif Swyddogion Gweithredol yr awdurdod priffyrdd orfodi'r math hwn o fynd yn groes i orchymyn traffig. Yr unig wahaniaeth yw mai'r heddlu sy'n dosbarthu hysbysiadau cosb benodedig, a Phrif Swyddog Gweithredol yr awdurdod priffyrdd sy'n dosbarthu rhybuddion taliadau cosb.

Gellir gweld gwybodaeth am bolisi parcio Cyngor Sir Powys yn https://cwsmer.powys.gov.uk/article/4064/Adroddiadau-Blynyddol-a-Pholisi-Parcio a gellir gweld canllawiau gweithredu Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (WPPP) yn https://www.wppp.org.uk/

 

C: Pam mae gwaharddiadau aros a llwytho newydd yn cael eu cyflwyno neu pam fod gwaharddiadau presennol yn cael eu diwygio?

A: Er bod y rheolau yn Rheolau'r Ffordd Fawr yn berthnasol i bawb, a'u bod yno i arwain pob defnyddiwr priffyrdd ynghylch sut y dylent ac na ddylent deithio ar hyd a defnyddio'r briffordd gyhoeddus, mae llawer o yrwyr yn dewis diystyru anghenion defnyddwyr eraill y briffordd ac yn aml yn gadael eu cerbydau mewn mannau lle maent yn achosi niwsans a /neu berygl i ddefnyddwyr eraill y briffordd, neu'n rhwystro'r briffordd fel bod cerbydau eraill (yn arbennig cerbydau mwy, cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a cherbydau'r gwasanaeth brys) yn cael trafferth teithio ar hyd y briffordd neu fynd o amgylch troadau a chyffyrdd ac ati, ac felly'n cael eu gorfodi i fynd am yn ôl, gwneud symudiadau anodd diangen neu ddringo'r troetffordd i basio cerbydau wedi'u parcio.

Mae gan awdurdodau traffig lleol ddyletswydd, dan Adran 16 Deddf Rheoli Traffig 2004 , i reoli eu rhwydwaith ffyrdd er mwyn sicrhau bod traffig yn symud ar y rhwydwaith hwnnw'n hwylus, ac i hwyluso'r un peth ar rwydweithiau eraill. Mae cyflwyno gorchmynion rheoleiddio traffig lle bo'n briodol ac yn angenrheidiol i reoleiddio symudiadau traffig a rheoli parcio ar y stryd a llwytho yn rhan o'r pecyn cymorth sydd ar gael i awdurdodau traffig lleol i gydymffurfio â'r ddyletswydd hon.

 

C: A oes rhwymedigaeth ar yr awdurdod priffyrdd i ddarparu trefniadau parcio oddi ar y stryd eraill os gwaharddir aros neu lwytho ar y stryd y tu allan i'm heiddo neu lle rydw i'n dewis parcio fel arfer?

A: Nag oes. Nid oes gan yr awdurdod priffyrdd unrhyw ddyletswydd i ddarparu mannau parcio oddi ar y stryd ar gyfer trigolion, busnesau neu ymwelwyr.

 

C: A allaf hawlio iawndal am golli gwerth tybiedig neu wirioneddol fy eiddo os yw parcio a/neu lwytho yn cael ei wahardd neu ei gyfyngu yn fy stryd i?

A: Na allwch, oherwydd nad oes gan neb yr hawl i barcio ar y briffordd gyhoeddus o flaen eu busnes neu eiddo; ac roedd absenoldeb lle parcio preifat oddi ar y stryd a reolir gan yr eiddo yn hysbys pan gafodd yr eiddo ei brynu neu ei brydlesu.

 

Q: Sut mae'r awdurdod priffyrdd yn ymgynghori â'r cyhoedd cyn cynnig neu wneud orchymyn rheoleiddio traffig i wahardd aros a /neu lwytho?

A: Fel rheol, caiff cynigion ar gyfer y math hwn o orchymyn rheoleiddio traffig eu llunio o ganlyniad i gwynion gan y cyhoedd, busnesau, cynghorau cymuned neu'r gwasanaethau brys ac ati, neu oherwydd sefyllfaoedd a nodwyd gan yr awdurdod traffig sy'n effeithio'n negyddol ar eu dyletswydd o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 , neu sy'n peri pryder diogelwch cyfreithlon ar y briffordd.

Yn y lle cyntaf, cynhelir trafodaethau rhwng swyddogion yr awdurdod priffyrdd, y cynghorydd sir lleol a'r cyngor cymuned/tref. Mae'r cyngor cymuned/tref a'r cynghorydd sir lleol yn cynrychioli'r etholwyr a'r busnesau yn eu wardiau, felly mae'r cynigion fel arfer yn cael eu trafod mewn un neu fwy o gyfarfodydd cynghorau cymuned/ tref cyn gwneud argymhelliad neu cyn anfon sylwadau yn ôl i'r awdurdod priffyrdd.

Unwaith y bydd y cynigion drafft wedi'u cwblhau ac mae'r cynllun yn sgorio'n ddigon uchel yn erbyn pob cynllun diogelwch arall ym Mhowys, rhoddir adroddiad i'r Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd, Ailgylchu ac Asedau i'w ystyried. Os caiff ei gymeradwyo, mae'r awdurdod priffyrdd yn hysbysebu'r cynnig ar y safle ac yn y wasg leol ac mae cyfnod ymgynghori o leiaf 21 diwrnod yn cychwyn lle mae'r cyhoedd yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau unwaith eto.

 

C: A yw'r cyngor sir yn gweithredu cynllun trwydded parcio i drigolion?

A: Ydy, gellir dod o hyd i fanylion ar wefan y cyngor yn http://www.powys.gov.uk/cy/roads-transport-and-parking/ymgeisio-am-drwydded-parcio-i-drigolion/

Dylid nodi mai dim ond mewn mannau lle mae'r ffordd yn addas ar gyfer baeau parcio ar y stryd y gellir gweithredu'r cynllun, ac nid yw'n gwarantu lle parcio mewn unrhyw leoliad penodol ar y stryd o fewn parth diffiniedig ar gyfer trwyddedau parcio i drigolion, nac yn gwarantu y bydd unrhyw barcio ar gael ar unrhyw adeg benodol ar unrhyw stryd benodol o fewn y parth hwnnw.

Mae parthau trwyddedau parcio i breswylwyr yn destun gorchmynion rheoleiddio traffig, ac maent yn drwyddedau hollol wahanol i'r rhai y gellir eu prynu i ganiatáu parcio ym meysydd parcio talu ac arddangos cyfnod hir y cyngor.