Help arall yn eich ardal chi
Mae sawl ffynhonnell gymorth leol ar gael i chi i'ch helpu gydag anghenion penodol.
Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig taliadau neu gymorth mewn nwyddau i bobl sydd ag angen brys neu lle bo angen a ddynodwyd i ddiogelu iechyd a lles. Bydd y taliadau'n ar gael i bobl nad oes ganddynt unrhyw fodd arall o gwrdd â chostau byw uniongyrchol. Nid ydynt wedi'u bwriadu i gwrdd â threuliau parhaus cyson.
Dod o hyd i'ch Banc Bwyd lleol
ar gyfer cymorth bwyd.
Rydym yn helpu pobl i ddatrys eu problemau cyfreithiol, ariannol ac eraill, trwy roi gwybodaeth a chyngor a thrwy ddylanwadu ar lunwyr polisïau. Rydym yn defnyddio tystiolaeth o broblemau ein cleientiaid i ymgyrchu i wella cyfreithiau a gwasanaethau sy'n effeithio ar bawb.
www.powyscitizensadvice.org.uk/
Cyngor cyfrinachol am ddim ynglyn â dyled, budd-daliadau'r wladwriaeth, cyflogaeth, problemau gyda thai a chymdogion, materion sy'n ymwneud â pherthnasoedd, cyngor i ddefnyddwyr, ymholiadau ynglyn â materion cyfreithiol, problemau gyda chyfleustodau ac ati.
Bydd Infoengine yn eich hlepu i ddod o hyd i amrywiol fathau o gymorth lleol ledled Powys ar gyfer eich anghenion.