Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Caffael a chytundebau

Mae Cyngor Sir Powys yn gwario tua £250 miliwn y flwyddyn ar amrywiaeth o nwyddau, gwasanaethau a gwaith i gefnogi cynllun corfforaethol Cryfach, Tecach, Gwyrddach y sefydliad: https://cy.powys.gov.uk/eingweledigaeth Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i wario'r arian hwn yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn cyflawni ei amcanion a'r canlyniadau y mae ei breswylwyr yn eu dymuno.

Strategaeth Comisiynu a Chaffael

Mae  Strategaeth Gaffael 2022 - 2025 (PDF) [3MB] yn darparu'r fframwaith i'r Cyngor sicrhau gwerth a chyfalaf cymdeithasol o'i holl gontractau masnachol.

Tendro

  • Mae Sell2Powys yn darparu mynediad at gyfleoedd tendro gan Gyngor Sir Powys a llawer o awdurdodau contractio cyhoeddus eraill yng Nghymru ar gyfer gofynion sy'n uwch na £50,000. Bydd cofrestru gyda Sell2Wales yn eich galluogi i dderbyn hysbysiadau am gyfleoedd a gyhoeddir yn eich maes busnes.
  • eTenderWales yw'r platfform sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer proses ymgeisio am gyfleoedd tendro, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd wedi'ch cofrestru gydag eTenderWales er mwyn gwneud cais.

Cofrestr Contractau

Diogelu

Disgwylir i ddarparwyr ddarparu hyfforddiant diogelu i'w weithwyr yn unol â'r Safonau a'r Fframwaith Hyfforddi Diogelu Cenedlaethol, a ddatblygwyd ar ran pob asiantaeth gan Gofal Cymdeithasol Cymru. https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/diogelu-rhestr/fframwaith-hyfforddi-dysgu-a-datblygu-diogelu-cenedlaethol

Sero Net

Mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i sicrhau Sero Net ac wedi cytuno ar Argyfwng Hinsawdd ac Argyfwng Natur. Mae ein cadwyn gyflenwi yn chwarae rôl allweddol i wireddu ein nodau strategol, ac felly mae cymorth ar gael trwy'r canlynol.

  • Cynlluniau Lleihau Carbon: Yn unol â gofynion Nodyn Polisi Caffael Cymru WPPN06/21, mae 'n rhaid i gyflenwyr darparu Cynllun Lleihau Carbon (CRP) safonol fel rhan o gam dethol y broses o gaffael contractau cyhoeddus gwerth £5 miliwn neu fwy. Y cynllun lleihau carbon (CRP) a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU yw'r safon i'w ddefnyddio gan gyflenwyr wrth iddynt wneud cais ar gyfer contractau Cyngor Sir Powys. Hefyd, argymhellir bod cyflenwyr yn mynychu'r Hyfforddiant byw ar gynllun lleihau carbon cyflenwyr newydd,  a ddarperir gan Wasanaethau Masnachol y Goron i'w cynorthwyo i lenwi eu CRP.
  • Porth Cynaliadwyedd Cadwyn Cyflenwi: I gefnogi ein cyflenwyr bellach, mae Cyngor Sir Powys newydd greu Porth Cadwyn Gyflenwi, Porth Cynaliadwyedd Cadwyn Gyflenwi - Cyngor Sir Powys. Ein nod yw creu cadwyn gyflenwi gyda gwybodaeth a sgiliau credadwy ynglŷn â datgarboneiddio a newid hinsawdd. Cynlluniwyd y porth hwn yn wreiddiol i gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol ym Mhowys gyda'u cynlluniau cynaliadwyedd a lleihau carbon, er y bydd hwn yn cael ei ehangu i gefnogi pob cyflenwr ymhen 2025.

Arweiniad a Chymorth

Diwygiadau caffael y DU

Derbyniodd Deddf Caffael newydd 2023 Gydsyniad Brenhinol ym mis Hydref 2023 a disgwylir i ragor o is-ddeddfwriaeth gael ei chymeradwyo yn gynnar yn 2024. Disgwylir i'r rheoliadau caffael newydd fynd yn fyw yn Hydref 2024 a disgwylir i raglen fanwl o hyfforddiant ac ymwybyddiaeth, a ddarperir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ddechrau yng Ngwanwyn 2024. Anogir cyflenwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau hyn drwy Drawsnewid Caffael Cyhoeddus - GOV.UK (www.gov.uk)

Cyswllt

Dim ond trwy lwybrau negeseuon y prosiect ar eTenderWales y dylid gwneud unrhyw gyswllt sy'n berthnasol i brosiect tendro penodol. Am unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â chyfeiriad e-bost y tîm - commercialservices@powys.gov.uk