Grantiau a chyngor i fusnesau newydd
Pan fyddwch wedi penderfynu sefydlu busnes, y cam nesaf yw creu cynllun busnes.
Mae cynllun busnes yn dynodi eich targedau a sut y bydd y busnes yn cyflawni hyn. Bydd yn disgrifio sut mae'r busnes yn rhedeg, yn nodi marchnadoedd, yn rhoi amlinelliad o'r strategaeth fusnes ac yn cynnwys rhai rhagamcanion ariannol.
Bydd cynllun busnes yn rhoi golwg gyffredinol i chi o gyfeiriad eich busnes, beth mae'r busnes i'w gyflawni a sut y bydd yn gwneud hyn. Bydd eich cynllun busnes yn eich helpu i gael nawdd. Bydd angen i chi ymgeisio am y rhan fwyaf o ffynonellau nawdd, megis benthyciadau banc.
Gall Canolfan Ranbarthol Llywodraeth Cymru eich rhoi mewn cysylltiad ag ymgynghorwyr arbenigol a all eich cefnogi wrth ddatblygu cynllun busnes. Gallwch gysylltu â nhw ar 03000 603000 neu gysylltu â nhw ar-lein.
Mae gwefan Llywodraeth y DU hefyd yn adnodd defnyddiol am wybodaeth ar sefydlu busnes.
Mae'n hanfodol sicrhau fod gennych ddigon o arian i ddechrau eich busnes ac i'ch cefnogi yn ystod y cyfnod sefydlu. Yn aml, gall busnesau newydd gymryd amser i gyrraedd man lle gallant ddarparu incwm, felly bydd angen i chi gael arian yn y banc i ddarparu ar eich cyfer yn y cyfnod hwn. Os nad oes gennych ddigon o arian i ddarparu ar gyfer costau a threuliau byw tan y bydd y busnes yn gwneud arian, yna nid ydych yn barod i sefydlu busnes.
Yn aml, mae oedi cyn sefydlu busnes yn llawer iawn gwell na pharhau gyda busnes pan mae gennych broblemau llif arian. Ceisiwch fabwysiadu dull gofalus o ran pryd y bydd busnes newydd yn creu incwm da i chi. Mae cyngor ar hyn a phob agwedd ar sefydlu busnes (gan gynnwys cynllunio busnes a chyllid) ar gael oddi wrth Busnes Cymru
Heblaw am eich cynilion eich hunan, mae ffynonellau eraill o nawdd i sefydlu busnesau ym Mhowys yn cynnwys grantiau, megis The Prince's Trust, benthyciadau banc a gorddrafftiau.
Mae J4B Grant Finder yn cynnwys cronfa dda y gellir ei chwilio am gronfeydd grantiau eraill.