Ffermydd y Sir
Gyda 138 daliad a thir yn estyn hyd at 10,700 erw, Stad Ffermydd Sir Powys yw'r ystâd fwyaf o'i math yng Nghymru, a'r bumed fwyaf ym Mhrydain.
Stad Ffermydd
Rydym yn cadw'r Stad Ffermydd i ddarparu cyfleoedd i unigolion sefydlu a datblygu busnesau yn seiliedig ar ffermydd mewn ardaloedd gwledig. Mae'r Stad hefyd yn darparu incwm buddsoddi i'r Cyngor Sir trwy greu gwarged gweithredol bob blwyddyn.
Lleolir y mwyafrif o'r daliadau yn Sir Drefaldwyn ond mae sawl ystâd yn Sir Faesyfed a daliadau pellach yn Sir Frycheiniog.
Mae daliadau Ffermydd y Sir yn amrywio o 2 erw i 200 erw. Mae 'daliad' yn cynnwys ffermdy, adeiladau fferm a thir. Unedau magu stoc yw'r mwyafrif o'r daliadau ar hyn o bryd ond mae tua 20 daliad fferm laeth ar y Stad. Yn ychwanegol at hyn, mae sawl tenant wedi datblygu mentrau garddio a bydd y Cyngor Sir yn cefnogi mentrau arallgyfeirio neu 'ychwanegu gwerth' lle mae'r rhain yn addas i'r eiddo.
Caiff tenantiaid eu hannog i ddatblygu ac estyn eu busnesau er mwyn symud i ffermydd mwy naill ai o fewn Stad Ffermydd y Sir neu o fewn y sector preifat.
Caiff y Stad ei rheoli gan dîm mewnol, sy'n ffurfio rhan o wasanaeth Eiddo Corfforaethol y Cyngor.
Gwneud cais am denantiaeth
Mae ffermydd ar osod yn cael eu hysbysebu yn y wasg leol. Lle'n briodol, bydd ffermydd ar osod yn cael eu hysbysebu yn y wasg ffermio genedlaethol (ffermydd mwy fel arfer). Mae manylion y ffermydd sydd i'w rhoi ar osod hefyd yn cael eu hanfon at y sawl sydd ar y rhestr bostio.
Gellir cael rhagor o fanylion a'r manylion llawn am £10 y daliad. Fel arfer, bydd diwrnod gweld penodol lle gall darpar ymgeiswyr edrych ar y fferm, gweld y cyfleusterau a thrafod unrhyw faterion y dymunant eu codi gyda'r Asiant Tir.
Yn dilyn y diwrnod gweld penodol, bydd gan ymgeiswyr gyfnod o amser i lenwi a chyflwyno cais a ffurflenni tendro. Yn y ffurflen gais, bydd angen nodi eich cynigion ar gyfer yr eiddo, nodi manylion am brofiad a hyfforddiant busnes perthnasol, a chadarnhau eich sefyllfa ariannol. Rhaid i ymgeiswyr ddangos fod ganddynt ddigon o wybodaeth trwy brofiad am y fenter arfaethedig a bod ganddynt ddigon o adnoddau ariannol i ddatblygu'r busnes.
Bydd daliadau fel arfer yn cael eu gosod ar dendr a rhoddir amcan o'r rhent ym manylion yr eiddo ar osod. Bydd y rhent fydd yn cael ei dendro yn un o sawl ffactor a ystyrir gan y Cyngor Sir pan fyddwn yn asesu'r ceisiadau. Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael ei llunio ac yna bydd gofyn i'r ymgeiswyr ar y rhestr fer gyflwyno cynllun busnes manwl. Bydd yr Asiant Tir fel arfer yn dymuno cwrdd â'r ymgeiswyr ar y rhestr fer yn eu cartrefi.
Lleoliadau'r Stad
Sir Frycheiniog
- Cefn Cantref
- Talachddu
- Llangynidr
Sir Drefaldwyn
- Aberhafesb
- Abermiwl
- Adfa
- Arddlin
- Aberriw
- Betws
- Caersws
- Cemais
- Yr Ystog
- Ffordun
- Llandysilio
- Garthmyl
- Cegidfa
- Ceri
- Tre'r-llai
- Llanfechain
- Llanfyllin
- Llansilin
- Meifod
- Trefaldwyn
- Penstrowed
- Cei'r Trallwng
- Sarn
Sir Faesyfed
- Burlingjobb
- Bleddfa
- Y Clas-ar-Wy
- Glanyrafon
- Tref-y-Clawdd
- Llanddewifach
- Llanfaredd
Derbyn hysbysiad trwy neges e-bost am y ffermydd a fydd ar gael i'w rhentu cyn bo hir neu os ydych am:
dderbyn manylion eiddo llenwch y ffurflen hon Gofyn am fanylion (Ffermydd Sirol)
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma