Newid cyfeiriad ac amgylchiadau (Budd-daliadau neu ddyfarniadau)
Dywedwch wrthym ar unwaith am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau gan y gallai hynny effeithio ar unrhyw fudd-daliadau a dderbyniwch gennym ni. Hefyd am angen i ni wybod os oes unrhyw newid yn eich manylion cysylltu.
Sut i roi gwybod i ni am y newidiadau
- Dywedwch wrthym yn ysgrifenedig, a nodwch rif eich budd-daliadau neu'ch dyfarniadau. Mae'r rhif i'w weld ar y llythyrau rydym yn eu hanfon atoch.
- Gallwch ddefnyddio'r ffurflen gyferbyn i ysgrifennu'r newidiadau hyn, neu gallwch ysgrifennu atom neu ddweud wrthym dros y ffôn neu'r e-bost.
- Dywedwch wrthym beth sydd wedi newid, a phryd ddigwyddodd y newid.
- Rhowch yr holl fanylion i ni, er enghraifft, newid yn eich incwm, enw a dyddiad geni rhywun sydd wedi dod i fyw gyda chi, ac yn y blaen.
- Byddwn fel arfer yn hoffi gweld unrhyw ddogfennau sy'n berthnasol i'r newid. Fell os oes gennych unrhyw ddogfen o'r fath, anfonwch hi dros yr e-bost, neu drwy'r post, neu dewch â hi i unrhyw un o'n Mannau Gwasanaethau Cwsmer.
Peidiwch ag oedi cyn dweud wrthym am newid oherwydd eich bod yn aros am ddogfen. Dywedwch wrthym ar unwaith, ac os oes angen unrhyw fanylion pellach, byddwn yn cysylltu â chi.