Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro
![]() | Mae Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro yn eich caniatau i gynnal un neu ragor o weithgareddau sydd angen trwydded ar eich safle am hyd at 168 awr. Gellir defnyddio Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro i gynnal digwyddiadau bach heb fod yn fwy na 499 o bobl ar y tro, yn dibynnu ar rai cyfyngiadau. |
Gellir defnyddio Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro ar gyfer:
Os yw'r rhybudd yn bodloni meini prawf y Ddeddf Drwyddedu, bydd y digwyddiad yn mynd yn ei flaen oni bai bod rhybudd yn cael ei roi yn ei erbyn. Gellir defnyddio Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro ar gyfer digwyddiadau sy'n cynnwys:
Mae'n bwysig eich bod yn gwneud yn siwr bod unrhyw weithgareddau trwyddedig yn cael eu cynnal yn ôl y manylion a disgrifiwyd yn y rhybudd a gafodd ei gyflwyno. Rhaid i'r rhybudd fod yn y diwyg cywir ac mae'n rhaid i rywun dros 18 oed ei gyflwyno. Gallwch ddefnyddio'r ffurflen gais ar y dudalen hon i roi rhybudd i ni, neu gallwch ddweud wrthym:
Os na fyddwch wedi clywed oddi wrthym o fewn 9 diwrnod calendr o anfon eich cais, gallwch dderbyn bod eich cais wedi cael ei ganiatau. |
|
Mae rhai cyfyngiadau ar ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal dan drwydded Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro
- Dim mwy na 499 o bobl ar y safle ar unrhyw adeg ar gyfer unrhyw achlysur
- Gall pob achlysur Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro bara hyd at 168 awr
- Ni all unrhyw safle gynnal fwy na 12 achlysur Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro bob blwyddyn
- 21 diwrnod y flwyddyn yw cyfanswm uchaf y cyfnod y mae Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro yn berthnasol iddo
- Rhaid bod o leiaf 24 awr rhwng pob digwyddiad ar unrhyw safle
- Gellir cyflwyno sawl Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro ar yr un pryd, ond mae pob achlysur yn Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro ar wahân a bydd ffi ar wahân i bob un. Ni ellir mynd dros y cyfyngiadau uchod.
- Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hyn i gyflwyno Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro a gallwch gyflwyno hyd at bum Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro bob blwyddyn. Os ydych yn ddeiliad trwydded bersonol, gallwch gyflwyno hyd at 50 Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro y flwyddyn.
Os nad yw'r meini prawf hyn yn cael eu diwallu, bydd angen i chi gael Trwydded Safle llawn.
Os oes safle ar gael i'w logi i sefydliadau/unigolion ar gyfer eu hachlysuron eu hunain, rhaid i berchnogion/gweithredwyr y safle fod yn ymwybodol bod y Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro sy'n cael ei gyflwyno yn cael ei gyfrif o dan y cyfyngiadau sydd yn y Ddeddf. Byddwn yn awgrymu felly bod cytundeb llogi yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod yr holl rybuddion o Ddigwyddiad Dros Dro ar gyfer digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ar safle yn cael eu gwneud gyda chytundeb y perchennog/gweithredwr.
Bydd Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro yn cael ei drin fel rhybudd a ddaw o'r un safle hyd yn oed os mai unigolyn cyswllt sy'n ei gyflwyno. Gall 'unigolyn cyswllt' fod yn gymar, plentyn, rhiant, wyr/wyres/ nain/taid, brawd neu chwaer neu gymar, neu asiant neu weithiwr neu gymar asiant neu weithiwr.
Apeliadau
Os ydych yn anfodlon ag unrhyw un o'n penderfyniadau, mae croeso i chi gysylltu â ni i'w drafod.
Os byddwn yn cyflwyno gwrth-rybudd, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad. Rhaid cyflwyno apel i'r llys Ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod. Rhaid cyflwyno apel o leiaf pump diwrnod gwaith cyn diwrnod y gweithgaredd dan sylw.
Eraill sydd â diddordeb
Os byddwn yn derbyn cwyn ac yn penderfynu i beidio â chyflwyno gwrth-rybudd, gall prif swyddog yr heddlu apelio yn erbyn y penderfyniad. Rhaid cyflwyno apel i'r llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod. Rhaid cyflwyno apel o leiaf pump diwrnod gwaith cyn y digwyddiad dan sylw.
Cwynion gan Ddefnyddwyr
Os oes gennych gwyn am fusnes yn defnyddio'r Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro cysylltwch â'ch swyddfa leol gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma