Trwydded sgip (ar y ffordd)
Efallai bydd angen i chi roi sgip ar y ffordd os ydych yn gwneud gwaith adeiladu neu gynnal a chadw. Bydd rhaid i'r cwmni sgipiau gael caniatâd i roi'r sgip ar y ffordd.
Ffurflenni cais
Ffioedd a thaliadau am drwyddedau
Beth fyddwn yn ei wirio
Os yw'n bosibl, dylech roi y sgip ar dir o fewn ffin yr eiddo, ond mewn rhai lleoliadau ni fydd hyn yn bosibl ac efallai byddwn yn rhoi caniatâd i roi'r sgip ar y ffordd. Byddwn yn rhoi'r caniatâd i'r cwmni sgipiau'n unig.
Cyn ein bod yn rhoi caniatâd, byddwn yn ystyried pob agwedd, gan gynnwys diogelwch a tharfu ar ddefnyddwyr eraill y ffordd. Os na fydd yn bosibl rhoi caniatâd ar gyfer y lleoliad y byddwch wedi gofyn amdano, byddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i safle arall sydd mor agos â phosibl.
Bydd angen cydymffurfio â'n gofynion o ran gosod sgipiau ar y briffordd. Mae hyn yn cynnwys:
- lleoliad y sgip
- maint y sgip
- sicrhau bod y sgipiau'n amlwg i draffig
- lliw a marciau
- gofal a gwaredu ar gynnwys y sgip
- goleuo a diogelu'r sgip
- symud y sgip
Ar ôl I chi wneud cais
Dylech gael ymateb gennym o fewn 7 diwrnod calendr o gyflwyno eich cais. Os na fyddwch wedi clywed gennym, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.
Unwaith y byddwn wedi cytuno ymhle y byddwch yn cael rhoi'r sgip, byddwn yn rhoi trwydded i chi.
Apeliadau
Os ydych yn anfodlon â'n penderfyniad, cysylltwch â ni i'w drafod. Gallwch ddefnyddio'r manylion cyswllt ar ochr dde'r dudalen hon.
Cwmniau sgipiau
Os yw eich cwmni'n gwaredu gwastraff sy'n cael ei gasglu mewn sgipiau, bydd angen i chi gael trwydded cludwr gwastraff o Asiantaeth yr Amgylchedd.
Cofrestru neu adnewyddu trwydded fel cludwr neu frocer gwastraff
Dilynwch ni ar:Cysylltiadau
Eich sylwadau am ein tudalennau