Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwydded sgip (ar y ffordd)

Click here to go to the 'Skip licence (on a road)' page

Efallai bydd angen i chi roi sgip ar y ffordd os ydych yn gwneud gwaith adeiladu neu gynnal a chadw.  Bydd rhaid i'r cwmni sgipiau gael caniatâd i roi'r sgip ar y ffordd. 

 

Ffurflenni cais

Gwneud cais am drwydded sgip

Ffioedd a thaliadau am drwyddedau

 

Beth fyddwn yn ei wirio

Os yw'n bosibl, dylech roi y sgip ar dir o fewn ffin yr eiddo, ond mewn rhai lleoliadau ni fydd hyn yn bosibl ac efallai byddwn yn rhoi caniatâd i roi'r sgip ar y ffordd.  Byddwn yn rhoi'r caniatâd i'r cwmni sgipiau'n unig.

Cyn ein bod yn rhoi caniatâd, byddwn yn ystyried pob agwedd, gan gynnwys diogelwch a tharfu ar ddefnyddwyr eraill y ffordd.  Os na fydd yn bosibl rhoi caniatâd ar gyfer y lleoliad y byddwch wedi gofyn amdano, byddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i safle arall sydd mor agos â phosibl.

Bydd angen cydymffurfio â'n gofynion o ran gosod sgipiau ar y briffordd.  Mae hyn yn cynnwys: 

  • lleoliad y sgip
  • maint y sgip
  • sicrhau bod y sgipiau'n amlwg i draffig
  • lliw a marciau
  • gofal a gwaredu ar gynnwys y sgip
  • goleuo a diogelu'r sgip
  • symud y sgip

 

Ar ôl I chi wneud cais

Dylech gael ymateb gennym o fewn 7 diwrnod calendr o gyflwyno eich cais.  Os na fyddwch wedi clywed gennym, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.

Unwaith y byddwn wedi cytuno ymhle y byddwch yn cael rhoi'r sgip, byddwn yn rhoi trwydded i chi.

 

Apeliadau

Os ydych yn anfodlon â'n penderfyniad, cysylltwch â ni i'w drafod.  Gallwch ddefnyddio'r manylion cyswllt ar ochr dde'r dudalen hon.

 

Cwmniau sgipiau

Os yw eich cwmni'n gwaredu gwastraff sy'n cael ei gasglu mewn sgipiau, bydd angen i chi gael trwydded cludwr gwastraff o Asiantaeth yr Amgylchedd.

Cofrestru neu adnewyddu trwydded fel cludwr neu frocer gwastraff

Cysylltiadau

  • Ebost: parkingpermits@powys.gov.uk  
  • Rhif ffôn: 01597 827465
  • Cyfeiriad: Parking, Powys County Hall, Spa Road East, Llandrindod, LD1 5LG

Dilynwch ni ar:

Eich sylwadau am ein tudalennau