Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau i weithio ar, neu ger ffordd

Cyn gweithio ar briffordd gyhoeddus neu feddiannu rhan ohoni, rhaid gwneud cais am drwydded addas.  Mae'r term "priffordd" yn cynnwys ffordd, lôn, ffordd i gerbydau, palmant, troedffordd ac ymyl ffordd.

Trwydded sgip (ar y ffordd)

Efallai bydd angen i chi roi sgip ar y ffordd os ydych yn gwneud gwaith adeiladu neu gynnal a chadw. Bydd rhaid i'r cwmni sgipiau gael caniatâd i roi'r sgip ar y ffordd.

Trwydded sgaffaldiau / baneri

Os ydych yn gwneud unrhyw waith adeiladu/cynnal a chadw neu'n dymchwel unrhyw ran o eiddo sydd wrth ffordd fawr gyhoeddus (ffordd, palmant neu lôn gefn), mae diogelwch holl ddefnyddwyr y ffordd yn hollbwysig.

Deunyddiau adeiladu ar y ffordd fawr

Os ydych am osod deunyddiau adeiladu ar unrhyw ran o'r briffordd, mae angen trwydded gan y Cyngor. Fel arfer, bydd y trwyddedau hyn yn cael eu rhoi dan adran 171 Deddf Priffyrdd.

Trwydded i agor ffordd (cloddio ac ati)

Rhaid i gontractwyr preifat wneud cais am drwydded a derbyn y drwydded honno cyn gwneud gwaith cloddio ar unrhyw ffordd fawr. Mae 'ffordd fawr' yn cynnwys y ffordd gerbydau, llwybrau troed ac ymylon y ffyrdd.

Trwydded ar gyfer cyrbin isel (mynediad i gerbydau)

Os ydych angen mynediad rhwng eich cartref a'r ffordd fawr a bod angen newid y ffordd i wneud hyn, bydd rhaid i chi gael caniatâd gan yr Awdurdod Priffyrdd cyn dechrau'r gwaith.

Defnyddio'r palmant, ffordd, ymyl y ffordd neu ffordd fawr

Gall y cyngor drwyddedu rhan o'r briffordd ar gyfer masnachu neu gaffis ar balmant. Ond nid yw'r cyngor yn gallu rhoi trwydded i ddefnyddio unrhyw balmant, ffordd, ymyl ffordd neu briffordd ar gyfer arddangosiadau stryd neu arwyddion hysbysebu.