Toglo gwelededd dewislen symudol

Defnyddio'r palmant, ffordd, ymyl y ffordd neu ffordd fawr

Click here to go to 'Using a pavement or road' page

Using a pavement or road
Gall y cyngor drwyddedu rhan o'r briffordd ar gyfer masnachu neu gaffis ar balmant.

I wneud cais, ewch i'r dudalen ar Drwyddedau Palmentydd.

Ond nid yw'r cyngor yn gallu rhoi trwydded i ddefnyddio unrhyw balmant, ffordd, ymyl ffordd neu briffordd ar gyfer arddangosiadau stryd neu arwyddion hysbysebu.

 

Rydym yn cydnabod y gall arddangos nwyddau ac arwyddion hysbysebu ychwanegu at fywiogrwydd y stryd, ond mae'n bwysig gwneud yn siwr bod:

  • Cerddwyr yn gallu defnyddio'r stryd yn hawdd ac yn ddiogel, yn enwedig rhai sydd â nam ar eu golwg, yr henoed, pobl anabl neu rai sydd â chadeiriau gwthio neu gadeiriau olwyn;
  • Modd gweld yn glir wrth fannau croesi a chyffyrdd;
  • Llwybrau heb rwystrau, a bod hi'n hawdd cyrraedd y siopau ac yn hawdd gwneud gwaith glanhau a chynnal a chadw.

Rydym angen llwybr sydd o leiaf 1.5 medr o led yn glir.  Lle bo llwybrau yn llai na 1.5 medr o led, rhaid eu cadw'n glir bob amser. Mae hyn yn cynyddu i 3.0 medr wrth arosfannau bysiau.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud ymholiadau, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.

Contacts

Feedback about a page here