Mân newidiadau i drwyddedau safle / clwb

Gall dalwyr trwyddedau safle a thystysgrifau safleoedd clwb wneud cais am 'fân amrywiadau' i'w trwyddedau, megis gwneud newidiadau bychain i ddiwyg y safle neu ychwanegu ambell i weithgaredd at y drwydded. Bydd mân amrywiadau yn cael eu trin yn wahanol i amrywiadau arferol.
Mân Amrywiadau
Gallwch wneud cais am fân amrywiadau pan fyddwch yn gwneud newidiadau bychain i'r sefyllfa a ddisgrifiwyd yn y drwydded, fel newid diwyg y safle neu ychwanegu ambell i weithgaredd at y drwydded.
Bydd angen i chi arddangos rhybudd ar y safle. Ni fyddwn yn barod i dderbyn yr amrywiadau oni bai ein bod yn sicr eu bod yn diwallu ein hamcanion trwyddedu.
Amrywiadau eraill
Ni ellir defnyddio'r broses mân amrywiadau ar gyfer:
- estyn y cyfnod y mae'r drwydded mewn grym
- gwneud newidiadau mawr i'r safle
- newid y goruchwyliwr safle dynodedig
- ychwanegu gwerthu neu gyflenwi alcohol
- ymestyn yr amser y gellir gwerthu neu gyflenwi alcohol ar unrhyw ddiwrnod
Bydd angen i chi gyflwyno cais ar y ffurflen briodol ar gyfer trwyddedau clwb neu safle i wneud y newidiadau hyn.
| |
Ar ôl I chi wneud caisBydd gan bobl sydd am gyflwyno sylwadau 10 diwrnod i wneud hynny o'r diwrnod ar ôl i ni dderbyn y cais. Bydd yn rhaid i ni aros tan ar ôl y cyfnod hwn cyn penderfynu derbyn neu wrthod y cais. Mae'n rhaid i ni wneud ein penderfyniad o fewn 15 diwrnod gwaith arall ar ôl derbyn eich cais. Os byddwn yn methu ag ymateb i chi o fewn 15 niwrnod gwaith, bydd y cais yn cael ei drin fel un sydd wedi ei wrthod a byddwn yn dychwelyd y ffi i chi. Fodd bynnag, os ydych yn cytuno, gallwn drin y cais fel un sydd heb ei benderfynu ac fel cais newydd gan ddefnyddio'r ffi gwreiddiol.
Arddangos rhybuddPan fyddwch yn gwneud cais am fân amrywiadau, bydd angen i chi ddangos rhybudd mewn man sy'n hawdd i'w ddarllen o du allan i'r safle. Bydd rhaid ei arddangos am o leiaf 10 diwrnod gwaith yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i chi gyflwyno eich cais i ni.
|
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma