Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau ar gyfer clybiau - Ar ôl i chi wneud cais

Fel arfer, bydd yn cymryd rhwng mis a thri mis o ddechrau'r cais.

Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais, bydd yn rhaid i chi osod rhybudd ar y safle a hysbyseb yn y wasg leol.  Bydd cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod yn dilyn ar gyfer awdurdodau, trigolion a busnesau lleol i gefnogi neu wrthwynebu'r cais ar ôl ystyried y canlynol:

  • atal trosedd ac anhrefn
  • diogelwch y cyhoedd
  • atal niwsans cyhoeddus
  • amddiffyn plant

Os bydd sylwadau'n gwrthwynebu'r cais na ellir eu datrys, yna bydd y cais yn mynd gerbron ein pwyllgor trwyddedu.  Rhaid cynnal y gwrandawiad o fewn 20 diwrnod gwaith i ddiwedd y cyfnod ymgynghori.

Bydd y pwyllgor yn ystyried y cais a'r dystiolaeth y bydd yn ei glywed.  Gallant benderfynu rhoi tystysgrif, newid yr amodau, eithrio gweithgaredd o'r dystysgrif, gohirio'r dystysgrif am gyfnod neu wrthod y dystysgrif.

Mae rhywun sydd â diddordeb yn:

  • unigolyn sy'n byw ger y safle
  • unigolyn sy'n rhan o fusnes ger y safle

Gall unrhyw un sydd â diddordeb gynnig sylwadau i ni a gwrthwynebu cais. Os bydd hyn yn digwydd bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal.  Os byddwch yn gwrthwynebu, byddwch yn cael gwybod os yw'r cais yn methu.

Gallwch apelio, yn ogystal ag unrhyw un sydd wedi gwrthwynebu'r cais os ydynt yn anfodlon a'n penderfyniad.  Rhaid cyflwyno apel i'r Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o'r dyddiad y cewch wybod am ein penderfyniad.

Ar ôl i chi gael eich trwydded

Os oes unrhyw newidiadau i reolau neu enw'r clwb mae'n rhaid i chi roi'r manylion i ni. 

Os oes tystysgrif yn bodoli ac mae cyfeiriad cofrestredig y clwb yn newid, mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni. 

Gallwch wneud cais i amrywio'r dystysgrif.  Anfonwch y dystysgrif gyda'r cais.

Cysylltiadau

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: Lechyd yr Amgylchedd, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, Powys, SY21 7PH

Eich sylwadau am ein tudalennau