Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Trwyddedau Clybiau

Club licences
Club licences

Mae Clybiau'n fudiadau lle mae'r aelodau wedi dod at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol, chwaraeon neu wleidyddol ac i brynu swmp o alcohol i'w gyflenwi yn y clwb. Mae tystysgrif safle clwb yn awdurdodi clwb i gynnal gweithgareddau clwb fel gwerthu alcohol a threfnu adloniant.

Mae gan glybiau gofynion trwyddedu arbennig oherwydd byddant ond yn gwerthu alcohol i westeion, gan fod yr aelodau'n berchen ar y stoc alcohol.  Gall ymwelwyr â'r clwb gael alcohol cyn belled â'u bod yn westeion dilys i aelodau'r clwb, neu'r clwb yn ei gyfanrwydd. 

Mae'n rhaid i glwb sy'n gymwys, bodloni'r amodau hyn:

  • ni chaiff unrhyw un aelodaeth, neu unrhyw freintiau aelodaeth o fewn dau ddiwrnod o'u cais i fod yn aelod
  • bod y clwb y cael ei sefydlu a'i gynnal gydag ewyllys da
  • bod gan y clwb o leiaf 25 aelod
  • bod alcohol ond yn cael ei roi i aelodau ar y safle gan y clwb

Dyma'r amodau ychwanegol ynglyn â chyflenwi alcohol, sef:

  • fod alcohol sy'n cael ei gyflenwi gan y clwb yn cael ei brynu gan aelodau o'r clwb sydd dros 18 oed ac wedi'u hethol i wneud hynny gan yr aelodau
  • nad yw unrhyw un yn derbyn unrhyw gomisiwn, taliad neu unrhyw fudd ariannol arall o brynu alcohol i'r clwb

Bydd cymdeithasau diwydiannol a darbodus a chymdeithasau cyfeillgar yn gymwys os yw alcohol yn cael ei brynu ar gyfer y clwb ac yn cael ei gyflenwi gan y clwb dan reolaeth yr aelodau.  Gall sefydliadau lles glowyr hefyd gael eu hystyried.  Cysylltwch â ni i weld os yw eich sefydliad chi'n gymwys.

Rhagor o wybodaeth am drwyddedu

Nid oes unrhyw derfyn amser ar y dystysgrif (oni bai eich bod yn gofyn am un).  Mae'n para tan i chi benderfynu dod â'r drwydded i ben neu os byddwch yn torri'r amodau a bod y dystysgrif yn cael ei thynnu yn ôl.

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Os oes gennych chi gwyn am fusnes sydd â thystysgrif safle clwb, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.

Ar ôl i ni roi tystysgrif, gall rhywun â diddordeb apelio os ydynt yn teimlo y dylai'r cais fod wedi cael ei wrthod neu y dylwn fod wedi gosod amodau neu gyfyngiadau ar weithgareddau'r clwb.  Gallant hefyd apelio yn erbyn penderfyniad adolygiad.

Rhaid cyflwyno apel i'r llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o'r penderfyniad.

Gall unrhyw aelod o'r clwb neu rywun â diddordeb ofyn i ni adolygu'r dystysgrif. Byddwn yn rhannu ein hymatebion i'r ceisiadau hyn trwy hysbysiad.  Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad adolygiad. 

Gwneud newidiadau

Oeddech chi'n gwybod:  Os ydych ond yn gwneud mânnewidiadau i'r sefyllfa sy'n cael ei ddisgrifio yn eich trwydded, gallwch wneud cais am fân amrywiad.

Rhoi gwybod i ni am newid i'ch fanylion presennol neu reolau'r clwb

Rhoi gwybod i ni am newid i'ch safle clwb presennol

 

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu