Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Trwyddedau ar gyfer clybiau - Sut i wneud cais

Dylech gyflwyno eich cais ar gyfer safleoedd ym Mhowys i ni. Mae'n rhaid eu cyflwyno mewn diwyg penodol a dylid eu hanfon gyda chynllun o'r safle, rheolau'r clwb ac atodlen gweithredu'r clwb a ddylai gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • gweithgareddau'r clwb
  • amseroedd y gweithgareddau sydd i'w cynnal
  • oriau agor eraill
  • os yw'r alcohol i'w werthu i'w yfed ar neu oddi ar y safle
  • unrhyw wybodaeth berthnasol arall

Efallai y byddwn yn archwilio eich eiddo cyn y byddwn yn ystyried eich cais.

Bydd angen i chi dalu ffi pan fyddwch yn gwneud eich cais cyntaf am eich Tystysgrif Safle Clwb.  Os byddwch yn cael y drwydded, bydd angen i chi dalu ffi flynyddol yn seiliedig ar werth ardrethol y safle.

Ffurflenni cais

Gwnewch gais ar-lein trwy ddefnyddio'r dolenni isod.  Bydd y dolenni yn eich trosglwyddo i wefan y llywodraeth.

Gwneud cais am dystysgrif safle clwb newydd

Talu'r ffi flynyddol

Noder bod y ddolen hon i safle a ddarperir gan Lywodraeth y DU ac nid yw ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd.

You must tell us about any changes  - mynnwch olwg ar yr adran benodol ar y dudalen hon.

Gallwch gael y ffurflenni cais gennym ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.  Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd gyda'r ffi i'r swyddfa trwyddedu ardal. 

Bydd ffi yn cael ei godi ar gyfer y drwydded hon.

Cysylltiadau

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: Lechyd yr Amgylchedd, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, Powys, SY21 7PH

Eich sylwadau am ein tudalennau

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu