Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau eiddo a phersonol - Sut i wneud cais

Os yw'r safle ym Mhowys, bydd angen i chi anfon cais atom ni.  Mae'n rhaid i geisiadau fod mewn ffurf benodol.  Bydd angen i ni hefyd weld rhestr weithredu, cynllun o'r safle a ffurflen ganiatâd gan oruchwyliwr y safle. 

Bydd y rhestr weithredu'n cynnwys manylion:

  • gweithgareddau i'w trwyddedu
  • yr amseroedd y bydd y gweithgareddau'n digwydd
  • unrhyw amseroedd eraill y bydd y safle ar agor i'r cyhoedd
  • y cyfnod y mae angen trwydded ar ei gyfer
  • gwybodaeth yn ymwneud â'r goruchwyliwr safle
  • os yw'r alcohol sydd i'w werthu i'w yfed ar neu oddi ar y safle neu'r ddau
  • unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen

Mae'n rhaid i chi dalu tâl pan fyddwch yn gwneud eich cais cyntaf ar gyfer eich trwydded safle.  Os byddwch yn cael trwydded, bydd angen i chi dalu tâl blynyddol, yn seiliedig ar werth y safle.

Nid oes unrhyw derfyn amser ar drwydded safle (oni bai eich bod yn gofyn am un).  Mae'n para nes i chi benderfynu dod â'r drwydded i ben oni bai eich bod yn torri amodau'r drwydded a bydd yn cael ei thynnu yn ôl.

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Cyfrifoldebau Perchnogion a Deiliaid

Y cyngor i berchnogion a deiliaid tir lle cynhelir digwyddiad, lle mae'r tir dan sylw yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a bennir dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) yw ceisio cyngor gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) cyn cychwyn y digwyddiad. Bydd gofyn cael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan CNC ar gyfer gweithrediadau neu weithgareddau y gellir tybio eu bod efallai'n niweidiol i nodweddion dynodedig y Safle, oni bai eu bod fel arall yn rhan o gytundeb rheoli sy'n cael ei lunio yn unol â deddfwriaeth berthnasol. Gall methu â chael y caniatâd angenrheidiol, a glynu wrth ei amodau heb esgus rhesymol, fod yn drosedd.

Hwyrach y bydd unigolyn sy'n trefnu, yn hwyluso neu'n mynd i ddigwyddiad, sydd heb esgus rhesymol, yn fwriadol neu'n ddi-hid yn dinistrio neu'n niweidio nodwedd(ion) dynodedig SoDdGA, neu sy'n fwriadol neu'n ddi-hid yn amharu ar ffawna dynodedig SoDdGa yn cyflawni trosedd. Gall y drosedd fod yn berthnasol i niwed neu achos o aflonyddu sy'n digwydd ar dir tu allan i ffiniau'r digwyddiad. Y cyngor i drefnyddion digwyddiadau yw y dylen nhw gysylltu â CNC am gyngor cyn cychwyn y digwyddiad.

Gellir cysylltu â CNC drwy ffonio 0300 065 3000.   /Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfarwyddyd i berchnogion a deiliaid Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Ffurflenni cais

Defnyddiwch y dolenni isod i wneud cais ar-lein.  Bydd y dolenni yn eich tywys i wefan arall y llywodraeth.

Gwneud cais am drwydded safle

Noder bod y ddolen hon i safle a ddarperir gan Lywodraeth y DU ac nid yw ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd.

Gwneud cais am ddarpar datganiad

Talu eich tâl blynyddol

Rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau

Gallwch gael ffurflenni cais oddi wrthym ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.  Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd gyda'r tâl i'r swyddog trwyddedu ardal. 

Byddwn yn codi tâl am gyfer y drwydded hon.

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma