Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau tacsis a llogi preifat - Gyrwyr (gwneud cais am drwydded)

Mae angen y drwydded hon cyn y gall unrhyw un yrru cerbyd llogi preifat trwyddedig neu Gerbyd Hacni.

Cyn derbyn trwydded, rhaid i'r ymgeisydd ddangos:

  • Ei fod ef/hi yn unigolyn addas i ddal trwydded; (Meini prawf Addasrwydd ar gyfer y Fasnach Hacni a Llogi Preifat)
  • Ei fod ef/hi wedi pasio prawf gwybodaeth a chymhwysedd yr awdurdod ar gyfer gyrwyr trwyddedig;
  • Ei fod ef/hi yn ffit yn feddygol;
  • Ei fod ef/hi wedi dal trwydded yrru lawn (nid trwydded dros dro) sy'n ei awdurdodi ef/hi i yrru car modur, ac a gyflwynwyd i'r ymgeisydd o leiaf 12 mis cyn dyddiad y cais;
  • Ei fod ef/hi wedi pasio archwiliad troseddol yr heddlu.
  • Bydd angen i ymgeiswyr newydd wylio'r fideo yma cyn sefyll y prawf gwybodaeth. Bydd y prawf yn cynnwys cwestiynau am y fideo i sicrhau bod gyrrwyr newydd yn deall y rôl sydd ganddynt i'w chwarae ym maes diogelu. Cyfrinair y fideo yw Safe001

Ffurflenni Cais

Cherbydau hurio preifat: amodau trwyddedu | LLYW.CYMRU

Cod ymddygiad gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat | LLYW.CYMRU

Tacsis a cherbydau hurio preifat: cod gwisg | LLYW.CYMRU

Cais am Drwydded (PDF) [272KB]

Cais i adnewyddu trwydded (PDF) [221KB]

Nodiadau canllaw (PDF) [269KB]

Byddwn yn codi tâl am y trwyddedau hyn.

Tudalen Flaen Meddygol

'Am geisiadau gyrwyr newydd, gwnewch apwyntiad gyda'ch swyddfa agosaf i gyflwyno eich ffurflenni, bydd gofyn i chi ddod ag amrywiaeth o ddogfennau adnabod gyda chi i alluogi cynnal archwiliadau DBS a DVLA. Bydd swyddogion yn rhoi manylion pellach i chi am y gofynion pan fyddwch yn gwneud eich apwyntiad'

Mae'r prawf gallu a gwybodaeth gyrwyr yn brawf ysgrifenedig aml-ddewis sy'n cynnwys 20 cwestiwn. Er mwyn pasio, rhaid i ymgeiswyr ateb o leiaf 16 allan o'r 20 cwestiwn yn gywir. Mae'r cwestiynau oll yn seiliedig ar amodau trwyddedu, cyfraith tacsis, diogelu a gwybodaeth ddaearyddol am Bowys. Dim ond 2 waith y gall gyrwyr eistedd y prawf mewn unrhyw flwyddyn galendr. Cynghorir ymgeiswyr i baratoi trwy wneud eu hunain yn gyfarwydd ag amodau trwyddedu cyn eistedd y prawf.

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma