Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Meini prawf Addasrwydd ar gyfer y Fasnach Hacni a Llogi Preifat

 

1.0       Cyflwyniad

1.1         Diben y ddogfen hon yw darparu arweiniad ar y meini prawf a gymerir i ystyriaeth gan y cyngor wrth benderfynu a yw ymgeisydd neu rywun sydd eisoes yn dal trwydded yn berson cymwys a phriodol neu'n berson diogel ac addas i ddal trwydded ai peidio.

1.2         Pwrpas trwyddedu cerbydau hacni a hurio preifat yw amddiffyn a sicrhau diogelwch y cyhoedd sy'n teithio ynddynt; ceir llawer o enghreifftiau lle y gwrthodir trwydded i ymgeisydd neu bydd trwydded yn cael ei dirymu neu'i hatal os ceir bod y person yn brin yn y prawf cymwys a phriodol. Mae cyfraith achosion yn ei gwneud yn glir nad yw effaith colli (neu beidio â derbyn) trwydded yrru ar yr ymgeisydd a'i deulu'n fater i'w gymryd i ystyriaeth.

1.3         Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n gwneud penderfyniadau yn ôl yr hyn sy'n debygol yn hytrach na'r hyn sydd y tu hwnt i amheuaeth resymol.

1.4         Cydnabyddir nad deddfwriaeth yw'r canllawiau hyn; fodd bynnag, dyma linell waelodol yr Awdurdod o ran derbynioldeb. Fel y cyfryw, ni wyrir oddi arni ond o dan amgylchiadau eithriadol ac am resymau cyfiawnadwy y dylid eu cofnodi.

1.5         Lle mae gan swyddogion bwerau dirprwyedig i roi trwyddedau, byddant yn defnyddio'r canllawiau hyn wrth wneud penderfyniad i ganiatáu trwydded. Ym mhob achos arall, cyfeirir ceisiadau am drwyddedau at y pwyllgor/panel trwyddedu (neu gorff penderfynu perthnasol arall).

 

2.0     Pwerau

2.1       Cynhwysir pwerau i roi trwyddedau gyrwyr/gweithredwyr yn Adran 51, Adran 55 ac Adran 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (y Ddeddf).

2.2       Cynhwysir pwerau i atal, dirymu neu wrthod adnewyddu trwydded gyrrwr yn Adran 61 y Ddeddf, lle mae'r ymgeisydd/deiliad y drwydded wedi cael ei gyhuddo o drosedd sy'n cynnwys anonestrwydd, anwedduster, trais, methiant i gydymffurfio â darpariaethau Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847; methiant i gydymffurfio â Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976; neu unrhyw achos rhesymol arall.

2.3       Mae Adran 61 (2B) yn caniatáu i'r Awdurdod Trwyddedu atal neu ddirymu trwydded gyrrwr, os yw'n ymddangos ei fod er budd diogelwch y cyhoedd, a hynny i ddod i rym yn syth. Rhoddir i'r gyrrwr Hysbysiad Penderfynu sy'n egluro pam mae'r penderfyniad yma wedi cael ei wneud a daw i rym ar yr adeg honno. Gall y gyrrwr apelio yn erbyn y penderfyniad hwn ond ni chaiff yrru yn ystod cyfnod yr apêl.

2.4       Mae Adran 62 y Ddeddf yn caniatáu i'r Awdurdod Trwyddedu atal, dirymu neu wrthod adnewyddu trwydded gweithredwr os yw'r ymgeisydd/deiliad y drwydded wedi'i gael yn euog o drosedd o dan neu drwy beidio â chydymffurfio â darpariaethau Rhan II o'r Ddeddf; neu ar sail unrhyw ymddygiad ar ran y gweithredwr sydd, yng ngolwg y Cyngor, yn ei wneud yn anaddas, neu oherwydd unrhyw newid sylweddol ers i'r drwydded gael ei rhoi yn unrhyw un o amgylchiadau'r gweithredwr y rhoddwyd y drwydded ar eu sail neu unrhyw achos rhesymol arall.

2.5       Mae Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu i'r Awdurdod Trwyddedu gymryd i ystyriaeth bob euogfarn a gofnodir yn erbyn ymgeisydd neu ddeiliad trwydded gyrrwr cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacni, a yw wedi darfod ai peidio. Felly, bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn ystyried pob euogfarn berthnasol, yn enwedig lle ceir hanes hir o droseddu neu batrwm diweddar o aildroseddu.

 

3.0       Apeliadau

3.1       Any applicant who has been refused a driver / operator licence, or a licensed driver / operator whose licence has been suspended or revoked has a right to appeal to the Magistrates' Court within 21 days of receipt of the notice.

 

4.0       Ystyriaethau

4.1       Un gamddealltwriaeth gyffredin yw, os nad oedd y drosedd wedi'i chyflawni pan oedd y gyrrwr yn gyrru tacsi, ei bod yn llai difrifol o lawer, neu hyd yn oed os mai mewn tacsi y digwyddodd ond ddim pan oedd teithwyr ynddo. Nid yw hyn yn berthnasol: mae goryrru'n beryglus, ni waeth beth yw'r sefyllfa; mae yfed a gyrru'n beryglus, ni waeth beth yw'r sefyllfa; mae teiars moel yn beryglus, ni waeth beth yw'r sefyllfa. Mae'r ymddygiadau hyn i gyd yn rhoi'r cyhoedd mewn perygl. Mae trais bob amser yn ddifrifol. Mae'r ddadl mai gwrthdaro domestig ydoedd neu iddo ddigwydd i ffwrdd o'r tacsi yn amherthnasol. Mae gan rywun sydd â thuedd i fod yn dreisgar y potensial i fod yn dreisgar ym mhob sefyllfa. Mae troseddau rhywiol bob amser yn ddifrifol. Mae rhywun sydd yn y gorffennol wedi camddefnyddio ei swydd (ni waeth beth oedd honno) i ymosod ar rywun arall yn rhywiol wedi amlygu safonau ymddygiad hollol annerbyniol.

4.2       Gall ymgeiswyr honni eu bod wedi ceisio cyflogaeth mewn meysydd eraill ac wedi'u hatal o ganlyniad i'w hanes blaenorol yn enwedig os yw hwnnw'n cynnwys euogfarnau. Maent felly'n ceisio dod yn yrwyr trwyddedig fel galwedigaeth pan fetho popeth arall. Nid yw hyn yn dderbyniol oherwydd byddai caniatáu trwydded yn rhoi unigolyn o'r fath mewn swydd gyfrifol unigryw lle byddai pobl yn ymddiried ynddo. Prif gyfrifoldeb awdurdod trwyddedu yw diogelu'r cyhoedd, nid darparu cyfleoedd gwaith.

4.3       Disgwylir i drwyddedigion amlygu ymddygiad proffesiynol priodol drwy'r amser, boed yng nghyd-destun eu gwaith neu fel arall. Dylai trwyddedigion fod yn gwrtais, osgoi gwrthdaro, peidio â bod yn ddifrïol na dangos rhagfarn mewn unrhyw ffordd. Ni ddylai trwyddedigion, ar unrhyw gyfrif, gymryd y gyfraith i'w dwylo eu hunain. Disgwylir i drwyddedigion weithredu gydag uniondeb gan amlygu ymddygiad sy'n gweddu i'r ffydd a roddir ynddynt.

 

5.0       Arweiniad ar Benderfyniadau

5.1         Ceir 5 math o drwydded: cerbyd hacni; cerbyd hurio preifat; gyrrwr cerbyd hacni; gyrrwr hurio preifat (mae'r awdurdod hwn yn mabwysiadu bathodyn deuol ar gyfer gyrwyr sy'n caniatáu iddynt yrru cerbyd hurio preifat a cherbyd hacni) a gweithredwr hurio preifat. Mewn cysylltiad â phob un o'r trwyddedau hyn, mae gan yr awdurdod y disgresiwn i roi, dirymu ac atal trwydded.

5.2         Ni ellir rhoi trwydded i yrwyr a gweithredwyr oni fydd yr awdurdod yn fodlon ei fod yn "berson cymwys a phriodol" i ddal y drwydded honno (gweler Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, adrannau 51 a 59 mewn cysylltiad â gyrwyr; adran 55 mewn cysylltiad â gweithredwyr).

5.3         Nid oes unrhyw feini prawf statudol ar gyfer trwyddedau cerbydau, felly mae gan yr awdurdod ddisgresiwn llwyr o ran a ddylid rhoi trwydded i naill ai perchennog cerbyd hacni neu hurio preifat.

5.4         Ystyr "cymwys a phriodol" yw bod yr unigolyn (neu, yn achos trwydded gweithredwr hurio preifat, y cwmni cyfyngedig ynghyd â'i gyfarwyddwyr ac ysgrifennydd, neu holl aelodau o bartneriaeth) yn "ddiogel ac yn addas" i ddal y drwydded.

5.5         Wrth benderfynu ar ddiogelwch ac addasrwydd, mae gan yr awdurdod trwyddedu hawl i gymryd i ystyriaeth yr holl faterion sy'n ymwneud â'r ymgeisydd neu drwyddedai hwnnw. Nid wrth weithio yn y busnes cerbydau hacni neu hurio preifat yn unig y maent yn poeni am ymddygiad y person hwnnw. Mae'r ystyriaeth hon yn ehangach o lawer nag euogfarnau troseddol yn unig neu dystiolaeth arall o ymddygiad annerbyniol, ac ystyrir cymeriad yr unigolyn yn ei grynswth. Gall hyn gynnwys, ond mae heb ei gyfyngu i, agwedd ac anian yr unigolyn.

 5.6        Ystyrir euogfarnau am ymgais neu gynllwyn fel euogfarnau am gyflawni'r drosedd dan sylw. Ystyrir rhybudd yn union yr un ffordd ag euogfarn. Bydd cosbau penodedig a phenderfyniadau cymunedol hefyd yn cael eu hystyried yn yr un ffordd ag euogfarn.

5.7         Mae'n bwysig cydnabod y gall ac y bydd yr awdurdod trwyddedu'n ystyried materion sydd heb arwain at euogfarn droseddol (p'un a yw hynny o ganlyniad i ryddfarn, euogfarn yn cael ei dileu, penderfyniad i beidio ag erlyn neu ymchwiliad sy'n parhau lle mae'r unigolyn wedi derbyn mechnïaeth). Ar ben hynny, bydd cwynion lle na fu'r heddlu'n ymwneud â'r achos hefyd yn cael eu hystyried. Yn y ddogfen hon, bydd unrhyw gyfeiriad at 'euogfarn' hefyd yn cynnwys materion sy'n cyfrif fel ymddygiad troseddol, ond sydd heb arwain at euogfarn.

5.8         Yn achos unrhyw ymgeisydd newydd sydd wedi'i gyhuddo o unrhyw drosedd ac yn aros ei brawf, gohirir y penderfyniad nes i'r prawf gael ei gwblhau neu'r cyhuddiadau eu tynnu'n ôl. Lle mae rhywun sydd eisoes yn dal trwydded yn cael ei gyhuddo, penderfyniad yr awdurdod trwyddedu fydd pa gamau i'w cymryd yng ngoleuni'r canllawiau hyn.

5.9         Ym mhob achos, bydd yr awdurdod trwyddedu'n ystyried yr euogfarn neu'r ymddygiad dan sylw a pha bwys y dylid ei roi arni neu arno a bydd pob achos yn cael ei benderfynu yn ôl ei rinweddau ei hun ac yng ngoleuni'r canllawiau hyn.

5.10       Bydd unrhyw droseddau a gyflawnir neu ymddygiad annerbyniol sy'n cael ei riportio wrth yrru cerbyd hacni neu hurio preifat, yn ymwneud â defnyddio cerbyd hacni neu hurio preifat neu'n gysylltiedig â gweithredwr cerbyd hurio preifat, yn cael eu hystyried fel nodweddion gwaethygol ac ni welir y ffaith nad oedd unrhyw droseddau eraill yn gysylltiedig â'r busnesau cerbydau hacni a hurio preifat fel ffactorau lliniarol.

5.11       Gan mai ar yr unigolyn yn ei grynswth y bydd yr awdurdod trwyddedu'n edrych, mewn llawer o achosion ni fydd diogelwch ac addasrwydd yn cael eu penderfynu oherwydd bod cyfnod penodol o amser wedi dod i ben yn dilyn euogfarn neu gwblhau dedfryd. Mae cyfnodau amser yn ystyriaethau perthnasol o bwys ond nid yr unig ffactor ydynt wrth benderfynu.

5.12       Yn ogystal â natur y drosedd neu ymddygiad arall, bydd nifer y materion a'r cyfnod y'u cyflawnwyd drosto hefyd yn ystyriaeth. Mae patrymau ymddygiad annerbyniol neu droseddol dro ar ôl tro yn debygol o achosi mwy o bryder na digwyddiadau untro oherwydd gall patrymau o'r fath amlygu tueddfryd at ymddygiad neu droseddu o'r fath.

 5.13      Ni fydd gan y rhan fwyaf o ymgeiswyr a thrwyddedigion unrhyw euogfarnau ac wrth reswm dyna'r sefyllfa ddelfrydol. Mewn cysylltiad â phobl eraill, derbynnir bod bodau dynol yn gwneud camgymeriadau ac yn ddiffygiol o ran eu hymddygiad am amryw o resymau, a derbynnir hefyd fod llawer yn dysgu o'u profiad ac nad ydynt yn mynd rhagddynt i gyflawni troseddau eraill. O'r herwydd, mewn llawer o achosion mae'n bosibl na fydd euogfarn untro, yn enwedig un a gafwyd yn eithaf pell yn ôl, yn atal rhoi neu adnewyddu trwydded.

5.14       Mae hefyd yn bwysig cydnabod, unwaith bod trwydded wedi'i rhoi, fod gofyniad parhaus ar ran y trwyddedai i gynnal ei ddiogelwch a'i addasrwydd. Mae gan yr awdurdod trwyddedu bwerau i gymryd camau yn erbyn deiliad pob math o drwydded (gyrrwr, cerbyd a gweithredwr) a rhaid deall y bydd unrhyw euogfarnau neu gamau gweithredu eraill ar ran y trwyddedai a fyddai wedi'i atal rhag derbyn trwydded ar y cais cyntaf yn arwain at ddirymu'r drwydded honno.

 5.15      Bydd unrhyw anonestrwydd gan unrhyw ymgeisydd neu berson arall ar ran yr ymgeisydd y darganfyddir ei fod wedi digwydd mewn unrhyw ran o unrhyw broses gwneud cais (e.e. peidio â datgan euogfarnau, ffugenwau neu gyfeiriadau ffug, geirda sydd wedi'i ffugio) yn arwain at wrthod trwydded, neu os yw eisoes wedi'i rhoi, at ei dirymu a gall arwain at erlyniaeth.

5.17       Oherwydd bod yr effaith uniongyrchol ar y cyhoedd yn amrywio gan ddibynnu ar y math o drwydded y gwneir cais amdani neu a ddelir, mae angen ystyried effaith troseddau penodol ar y trwyddedau hynny ar wahân. Fodd bynnag, ceir rhai ystyriaethau hollbwysig a fydd yn berthnasol o dan unrhyw amgylchiadau.

5.18       At ei gilydd, lle mae gan berson fwy nag un euogfarn, bydd hyn yn codi cwestiynau difrifol am ei ddiogelwch a'i addasrwydd. Mae'r awdurdod trwyddedu'n chwilio am unigolion diogel ac addas, ac unwaith bod patrwm neu duedd i droseddu dro ar ôl tro yn amlwg, ni fydd trwydded yn cael ei rhoi na'i hadnewyddu.

5.19       Lle ceir ymgeisydd/trwyddedai yn euog o drosedd na fanylir arni yn y canllawiau hyn, bydd yr awdurdod trwyddedu'n cymryd yr euogfarn honno i ystyriaeth ac yn defnyddio'r canllawiau hyn fel arwydd o'r ymagwedd y dylid ei mabwysiadu.

5.20       Nid yw'r canllawiau hyn yn disodli dyletswydd yr awdurdod trwyddedu i wrthod rhoi trwydded lle nad ydynt yn fodlon bod yr ymgeisydd neu'r trwyddedai'n berson cymwys a phriodol. Lle nad ymdrinnir â sefyllfa gan y canllawiau hyn, rhaid i'r awdurdod ystyried y mater o safbwynt egwyddorion sylfaenol a phenderfynu ar gymhwystra a phriodoldeb yr unigolyn.

5.21       Penderfynir ar geisiadau newydd ynghyd ag adolygiadau o drwyddedau yn unol â'r egwyddorion a nodir isod. Bydd ceisiadau newydd naill ai'n cael eu caniatáu neu eu gwrthod. Gall adolygiadau o drwyddedau arwain at roi rhybudd, dim camau pellach neu atal/dirymu'r drwydded.

Gyrwyr

5.22       Gan fod y meini prawf ar gyfer penderfynu a ddylai unigolyn dderbyn neu gadw trwydded gyrrwr cerbyd hacni yn union yr un fath â'r meini prawf ar gyfer trwydded gyrrwr hurio preifat, ystyrir y ddwy gyda'i gilydd.

5.23       Mae gan yrrwr gyfrifoldeb uniongyrchol am ddiogelwch ei deithwyr, cyfrifoldeb uniongyrchol am ddiogelwch defnyddwyr eraill y ffyrdd a chryn reolaeth dros deithwyr sydd yn y cerbyd. Oherwydd y gall y teithwyr hynny fod ar eu pennau eu hunain a hefyd fod yn agored i niwed, bydd unrhyw euogfarnau neu ymddygiad annerbyniol blaenorol yn pwyso'n drwm rhag i drwydded gael ei rhoi neu'i chadw.

5.24       Fel a nodir uchod, lle mae gan ymgeisydd fwy nag un euogfarn gan ddangos patrwm neu duedd ni waeth faint o amser sydd ers yr euogfarnau, bydd yn rhaid ystyried o ddifrif a yw'n berson diogel ac addas.

5.25       Mewn cysylltiad ag euogfarnau unigol, dylai'r cyfnodau amser canlynol fynd heibio yn dilyn cwblhau'r ddedfryd (neu ddyddiad yr euogfarn os codwyd dirwy) cyn rhoi trwydded.

5.26       Troseddau sy'n arwain at farwolaeth

Lle mae ymgeisydd neu drwyddedai wedi'i gael yn euog o drosedd a arweiniodd at farwolaeth person arall neu oedd â'r bwriad o achosi marwolaeth person arall neu anaf difrifol iddo ni chaiff ei drwyddedu.

5.27    Camfanteisio

Lle mae ymgeisydd neu drwyddedai wedi'i gael yn euog o drosedd sy'n cynnwys, sy'n ymwneud â neu sydd ag unrhyw gysylltiad â cham-drin, cam-fanteisio, defnydd neu driniaeth o unigolyn arall ni waeth ai oedolion neu blant oedd y dioddefwr neu'r dioddefwyr, ni chaiff ei drwyddedu. Mae hyn yn cynnwys caethwasiaeth, camfanteisio ar blant yn rhywiol, magu neu feithrin perthynas amhriodol, cam-drin seicolegol, emosiynol neu ariannol, ond nid restr ddihysbydd yw hon.

5.28       Troseddau'n cynnwys trais

Lle mae ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd dreisgar neu sy'n gysylltiedig ag unrhyw drosedd dreisgar, ni fydd trwydded yn cael ei rhoi oni fydd 10 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd.

5.29       Bodâmeddiant ar arf

Lle mae ymgeisydd wedi'i gael yn euog o fod ag arf yn ei feddiant neu o unrhyw drosedd arall sy'n gysylltiedig ag arfau, ni fydd trwydded yn cael ei rhoi oni fydd 7 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd.

5.30       Troseddau rhyw ac anwedduster

Lle mae ymgeisydd wedi'i gael yn euog o unrhyw drosedd sy'n cynnwys neu sy'n gysylltiedig â gweithgarwch rhywiol anghyfreithlon neu unrhyw ffurf ar anwedduster, ni fydd trwydded yn cael ei rhoi.

Yn ogystal â'r uchod, ni fydd yr awdurdod trwyddedu'n rhoi trwydded i unrhyw ymgeisydd sydd ar hyn o bryd ar y Gofrestr Troseddwyr Rhywiol neu unrhyw restr 'waharddedig'.

5.31       Anonestrwydd

Lle mae ymgeisydd wedi'i gael yn euog o unrhyw drosedd anonestrwydd, neu unrhyw drosedd lle mae anonestrwydd yn elfen o'r drosedd, ni fydd trwydded yn cael ei rhoi oni fydd 7 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd.

5.32       Cyffuriau

Lle mae ymgeisydd wedi'i gael yn euog o fod â chyffuriau yn ei feddiant neu o drosedd sy'n gysylltiedig â hynny, neu feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi neu drosedd sy'n gysylltiedig â meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi, ni fydd trwydded yn cael ei rhoi oni fydd 10 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd.

Lle mae ymgeisydd wedi'i gael yn euog o fod â chyffuriau yn ei feddiant neu drosedd sy'n gysylltiedig â hynny, ni fydd trwydded yn cael ei rhoi oni fydd 5 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd rhaid i unrhyw ymgeisydd hefyd ymgymryd â phrawf cyffuriau ar ei draul ei hun i ddangos nad yw'n defnyddio cyffuriau rheoledig.

5.33       Gwahaniaethu

Lle mae ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd sy'n ymwneud neu sy'n gysylltiedig â gwahaniaethu ar unrhyw ffurf, ni fydd trwydded yn cael ei rhoi oni fydd 7 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd.

5.34       Euogfarnau moduro

Gyrwyr proffesiynol yw gyrwyr cerbydau hacni a hurio preifat yr ymddiriedir y cyfrifoldeb iddynt am gludo'r cyhoedd. Mae unrhyw euogfarn foduro'n dangos diffyg proffesiynoldeb ac fe'i hystyrir o ddifrif. Derbynnir y gall troseddau gael eu cyflawni'n anfwriadol ac ni fyddai mân drosedd draffig sy'n digwydd unwaith yn gwahardd rhoi trwydded neu efallai'n arwain at gamau'n cael eu cymryd yn erbyn trwydded sydd eisoes wedi'i rhoi. Mae euogfarnau olynol yn cadarnhau'r ffaith nad yw'r trwyddedai'n ymgymryd â'i gyfrifoldebau proffesiynol o ddifri ac felly nad yw'n berson diogel ac addas i dderbyn neu gadw trwydded.

5.35       Yfed a gyrru / gyrru o dan ddylanwad cyffuriau / defnyddio ffôn a ddelir yn y llaw neu ddyfais a ddelir yn y llaw wrth yrru

Lle mae ymgeisydd wedi'i gael yn euog o yfed a gyrru neu yrru o dan ddylanwad cyffuriau, ni fydd trwydded yn cael ei rhoi oni fydd 7 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd neu waharddiad rhag gyrru a osodwyd. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd yn rhaid i unrhyw ymgeisydd hefyd ymgymryd â phrawf cyffuriau ar ei draul ei hun i ddangos nad yw'n defnyddio cyffuriau rheoledig.

Lle mae ymgeisydd wedi'i gael yn euog o ddefnyddio ffôn symudol a ddelir yn y llaw neu ddyfais a ddelir yn y llaw wrth yrru, ni fydd trwydded yn cael ei rhoi oni fydd 5 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers yr euogfarn neu gwblhau unrhyw ddedfryd neu waharddiad rhag gyrru a osodwyd, p'un bynnag yw'r diweddaraf.

5.36       Troseddau moduro eraill

Mân drosedd draffig neu sy'n ymwneud â cherbydau yw un nad yw'n cynnwys colli bywyd, gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau na gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol ac nad yw wedi arwain at anaf i unrhyw berson neu ddifrod i unrhyw eiddo (gan gynnwys cerbydau). Lle mae gan ymgeisydd 7 neu fwy o bwyntiau ar ei drwydded DVLA am fân droseddau traffig neu debyg, ni fydd trwydded yn cael ei rhoi oni fydd 5 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd.

Trosedd draffig o bwys neu drosedd o bwys sy'n gysylltiedig â cherbydau yw un nad ymdrinnir â hi uchod a hefyd unrhyw drosedd a arweiniodd at anaf i unrhyw berson neu ddifrod i unrhyw eiddo (gan gynnwys cerbydau). Mae hefyd yn cynnwys gyrru heb yswiriant neu unrhyw drosedd sy'n gysylltiedig ag yswiriant moduro. Lle mae ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd draffig o bwys neu drosedd debyg, ni fydd trwydded yn cael ei rhoi oni fydd 7 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd.

5.37       Troseddau cerbydau hacni a hurio preifat

Lle mae ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd sy'n ymwneud â neu sy'n gysylltiedig â gweithgarwch cerbydau hacni neu hurio preifat (ac eithrio defnyddio cerbydau) ni fydd trwydded yn cael ei rhoi oni fydd 7 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd.

5.38       Troseddau defnyddio cerbydau

Lle mae ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd oedd yn ymwneud â defnyddio cerbyd (gan gynnwys cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat) ni fydd trwydded yn cael ei rhoi oni fydd 7 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd.

5.39       Gweithredwyr Hurio Preifat

Nid oes cyfrifoldeb uniongyrchol gan weithredwr hurio preifat ("gweithredwr") am ddiogelwch teithwyr, defnyddwyr eraill y ffyrdd na chysylltiad uniongyrchol â theithwyr sydd yn y cerbyd hurio preifat (ac eithrio lle mae hefyd wedi'i drwyddedu fel gyrrwr hurio preifat). Fodd bynnag, wrth gyflawni ei ddyletswyddau mae'n derbyn ac yn dal cryn dipyn o wybodaeth bersonol a phreifat am ei deithwyr y mae'n rhaid ei thrin yn gyfrinachol a pheidio â'i datgelu i bobl eraill ac ni ddylid cael ei defnyddio gan y gweithredwr neu ei staff at ddibenion troseddol neu annerbyniol eraill.

Fel a nodir uchod, lle mae mwy nag un euogfarn gan ymgeisydd, bydd angen ystyried o ddifrif a yw'n berson diogel ac addas.

Rhaid i weithredwyr sicrhau bod unrhyw staff a ddefnyddir yn y busnes (boed yn weithwyr neu'n gontractwyr annibynnol) ac sy'n gallu mynd at unrhyw wybodaeth a ddisgrifir uchod yn ddarostyngedig i'r un safonau â'r gweithredwr ei hun. Gellir gwneud hyn drwy'r gweithredwr yn gofyn bod yr aelod unigol o staff yn cael tystysgrif GDG sylfaenol. Os ceir nad yw gweithredwr yn arfer y safonau gofynnol a'i fod yn defnyddio staff nad ydynt yn cyrraedd meini prawf cyffredinol yr awdurdod trwyddedu, bydd hyn yn arwain at ddirymu trwydded y gweithredwr.

Gan mai ffydd a hyder y cyhoedd yn niogelwch ac uniondeb cyffredinol y system hurio preifat yn hanfodol, bydd yr un safonau'n cael eu defnyddio i weithredwyr â'r rheini ar gyfer gyrwyr a amlinellir uchod.

5.40    Perchnogion Cerbydau

Mae gan berchnogion cerbydau (cerbydau hacni a hurio preifat) ddau brif gyfrifoldeb.

Yn gyntaf, rhaid iddynt sicrhau bod y cerbyd yn cael ei gynnal a chadw at safon dderbyniol bob amser.

Yn ail, rhaid iddynt sicrhau nad yw'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion anghyfreithlon.

Fel a nodir uchod, lle mae mwy nag un euogfarn gan ymgeisydd, bydd angen ystyried o ddifrif a yw'n berson diogel ac addas i dderbyn neu gadw trwydded gerbyd.

Gan fod ffydd a hyder y cyhoedd yn niogelwch ac uniondeb cyffredinol y system hurio preifat yn hanfodol, bydd yr un safonau yn cael eu defnyddio i berchnogion ag y rheini ar gyfer gyrwyr a amlinellir uchod.