Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau tacsis a llogi preifat - Gweithredwyr

Mae trwydded gweithredwr yn caniatáu i chi dderbyn archebion am gerbydau llogi preifat.

Gellir trwyddedu un unigolyn a chyflogi neu isgontractio nifer ddiderfyn o gerbydau trwyddedig. Fodd bynnag, ni all gyrrwr llogi preifat trwyddedig dderbyn archebion, oni bai ei fod yn berchen ar, neu'n gweithio i gwmni llogi preifat trwyddedig. Gall gweithredwyr roi archebion i weithredwyr llogi preifat trwyddedig eraill, cyn belled â bod y gweithredwyr hynny wedi cael eu trwyddedu gan y cyngor.

Mae aelod o'r cyhoedd yn cysylltu  â'r gweithredwr sy'n derbyn yr archeb, hyd yn oed os nad yw'r gweithredwr yn darparu'r cerbyd a/neu'r gyrrwr.

Cyn caniatáu trwydded gweithredwr, rhaid i'r ymgeisydd fodloni'r Cyngor fod y cyfeiriad y maent yn bwriadu gweithredu ohono yn addas a lle bo hynny'n berthnasol, rhaid iddynt fodloni unrhyw amodau a gysylltwn i'r drwydded.

Ffurflenni Cais

Amodau ar gyfer Gweithredwyr Hurio Preifat | LLYW.CYMRU

Cais am Drwydded (PDF) [258KB]

Guidance Notes (PDF) [164KB]

Byddwn yn codi tâl am y trwyddedau hyn.

Yn achos ceisiadau newydd, trefnwch apwyntiad gyda'ch swyddfa agosaf i gyflwyno'ch ffurflenni, bydd gofyn i chi ddod ag amrywiaeth o ddogfennau hunaniaeth i'ch canlyn er mwyn i ni gynnal gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a'r DVLA, bydd swyddogion yn rhoi rhagor o fanlynion i chi am y gofynion yma pan wnewch eich apwyntiad.

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma