Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Tacsis a diogelu

Mae diogelu yn ymwneud ag amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl o niwed, gan atal amhariad ar eu hiechyd a'u datblygiad. Mae hyn yn cynnwys eu cadw'n ddiogel rhag esgeulustod, cam-drin corfforol, emosiynol a rhywiol.

Ar 6 Ebrill 2016 daeth deddfwriaeth newydd i fodolaeth ar gyfer Cymru gyda chyflwyno'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Mae hyn wedi achosi llawer o newidiadau i'r Awdurdod Lleol ac asiantaethau eraill ac mae'n cynnwys dyletswydd ar bartneriaid perthnasol i adrodd am unrhyw gamdriniaeth - i blentyn, person ifanc neu oedolyn agored i niwed - y maent yn ymwybodol ohono.

Fel Awdurdod Lleol, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl. Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif ac yn disgwyl i bob un o'n gyrwyr trwyddedig, perchnogion a gweithredwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

Fel gyrwyr tacsi, rydych yn treulio llawer o amser yn teithio o amgylch ein sir ac rydych mewn sefyllfa wirioneddol unigryw i weld ac adrodd am unrhyw beth y gallech fod yn poeni amdano, boed hynny yn blentyn yn y cwmni anghywir neu oedolyn sy'n ymddangos yn agored i niwed. Rydym yn sylweddoli er mwyn gallu gwneud hyn bod angen i chi allu sylwi ar yr arwyddion a gwybod sut i adrodd am bryderon. 

 

Gwyliwch y cyflwyniad byr yma ynglyn â diogelu a rôl busnesau tacsis. Cynhyrchwyd y cyflwyniad mewn partneriaeth â Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Chyngor Sir Powys ynghyd â Heddlu Dyfed-Powys. Mae'r fideo'n para rhyw 20 munud. Bydd angen i bob gyrrwr newydd wylio'r fideo a bydd yn cael ei brofi/ei phrofi ar yr hyn a welodd, fel rhan o'r prawf gyrwyr y mae angen llwyddo ynddo er mwyn cyflwyno cais i fod yn yrrwr tacsi. Cyfrinair y fideo yw Safe001.

 

Fe wnaeth yr ymchwiliad annibynnol i ymelwa'n rhywiol ar blant yn Rotherham (1997-2013) dynnu sylw at bryderon sylweddol ynghylch rheoliadau diogelu ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat.  O ganlyniad i'r materion a godwyd yn yr adroddiad a materion diogelu eraill, mae'r adrannau trwyddedu a diogelu yn cydweithio'n agos i adolygu'r trefniadau cyfredol o fewn trwyddedu i sicrhau bod rheoliadau a gweithdrefnau ynghylch diogelu yn gadarn, a'ch bod chi, fel pobl allweddol o fewn ein cymunedau, wedi eich paratoi i gyflawni eich cyfrifoldebau diogelu. 

Mae gennym i gyd ran i'w chwarae o fewn y maes diogelu ac edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda chi. Yn y cyfamser, os bydd gennych unrhyw bryderon am blentyn, person ifanc neu oedolyn agored i niwed, gallwch ffonio'r rhifau canlynol:-

Powys People Direct (PPD) - 01597 827,666 (oriau swyddfa) neu e-bostiwch  people.direct@powys.gov.uk

Allan o Oriau  0345 054 4847

Heddlu Dyfed-Powys 101

I gael rhagor o wybodaeth am arwyddion o gamfanteisio'n rhywiol ar blant dilynwch y ddolen i gael gwybodaeth gan Barnardo's

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma