Gwybodaeth y CDLl a gyflwynwyd
Datganiad Cyflwyno
Yn dilyn penderfyniad mewn cyfarfod o Gabinet Cyngor Sir Powys ar 15 Rhagfyr 2015, mae'r Cyngor wedi cyflwyno ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) i Lywodraeth Cymru i'w archwilio dan Adran 64(1) Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.
Bydd Archwiliad y CDLl yn cael ei wneud gan Arolygydd Annibynnol a fydd yn cael ei benodi i benderfynu os yw'r Cynllun yn 'gadarn'. Bydd yr Arolygydd yn asesu cadernid y CDLl yn ei gyfanrwydd yn hytrach nag ystyried gwrthwynebiadau unigol, a bydd yn seilio ei farn ar y dystiolaeth sydd ar gael, y sylwadau a wnaed ac amgylchiadau penodol y CDLl a'r ardal.
Rhybudd Cyflwyno ac Ymgynghoriad ar Newidiadau Penodol i'r CDLl (Ionawr 2016) (PDF, 54 KB)
Dogfennau a Gyflwynwyd
Cyswllt
- Ebost: ldp@powys.gov.uk
- Ffôn: 01597 826000
- Cyfeiriad: Polisi Cynllunio, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG