Toglo gwelededd dewislen symudol

Newyddion diweddaraf y Polisi Cynllunio

Digwyddiadau Galw Heibio ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd Powys (2022-2037)

Diweddariad 30 Awst 2024

Cytundeb Cyflawni Diwygiedig (Amserlen a Chynllun Cyfranogiad Cymunedol)

Mae'r Cyngor a Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo Cytundeb Cyflawni diwygiedig (sy'n manylu ar Amserlen a Chynllun Cyfranogiad Cymunedol wedi eu ddiweddaru) ar gyfer paratoi CDLl Newydd Powys (2022-2037) (PDF) [706KB].

Ymgynghoriad Strategaeth a Ffefrir (Rhagbaratoadol) ar gyfer y CDLl Newydd

Mae'r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDL Newydd yn digwydd am gyfnod o saith wythnos o Ddydd Llun 19 Awst tan ddydd Llun 7 Hydref 2024.  Mae'r ymgynghoriad yn cau am 5 pm ar ddydd Llun 7 Hydref 2024.  Am fanylion pellach ar yr ymgynghoriad, sut i weld y dogfennau ymgynghori a chyflwyno sylwadau, ewch i dudalen y Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol (CDL) Newydd

Mae dogfennau'r ymgynghoriad yn cynnwys Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol sy'n cofnodi'r safleoedd a gyflwynwyd wrth ymateb i'r Alwad ar gyfer Safleoedd Ymgeisiol yn 2022. Gwahoddir sylwadau ar safleoedd ymgeisiol fel rhan o'r ymgynghoriad Strategaeth a Ffefrir.  Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, mae modd hefyd cyflwyno safleoedd ymgeisiol newydd i'w hystyried.  

Ewch i'r dudalen Safleoedd Ymgeisiol am ragor o fanylion.  

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu