Toglo gwelededd dewislen symudol

Newyddion diweddaraf y Polisi Cynllunio

Diweddariad Ionawr 2024 - Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys.  Materion Allweddol, Gweledigaeth ac Amcanion.

Er mwyn llywio'r CDLl Newydd, mae'r Cyngor wedi paratoi dogfen sy'n nodi cyfres o Faterion Allweddol a Gyrwyr ar gyfer Newid yn ardal CDLl Powys.  Mae'r ddogfen hefyd yn cynnwys Gweledigaeth ddrafft a chyfres o Amcanion ar gyfer y CDLl Newydd sy'n ymateb i'r Materion Allwedol.

Mae'r Cyngor yn gofyn am adborth ynghylch a ydym wedi casglu'r materion allweddol sy'n berthnasol i gynllunio datblygu ym Mhowys, ac yn croesawu eich sylwadau ar y Weledigaeth a'r Amcanion arfaethedig. Mae'r ddogfen yn gam pwysig yn y broses CDLl Newydd, gan roi cyfle i chi ddylanwadu ar gam cynnar wrth baratoi'r CDLl Newydd. Sylwch nad yw ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Powys yn ymestyn i dir o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gallwch weld y ddogfen Materion Allweddol, Amcanion a Gweledigaeth a gallwch gyflwyno eich sylwadau'n uniongyrchol ar-lein drwy wefan y Cyngor: Dweud eich dweud

Fel arall, mae copïau o'r dogfennau a'r ffurflenni i'w cwblhau i gyflwyno eich sylwadau ar gael yn y llyfrgelloedd canlynol:

Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Llanfyllin, Llanidloes, Llanwrtyd, Machynlleth, Y Drenewydd, Llanandras, Rhaeadr, Y Trallwng ac Ystradgynlais

Rhaid i unrhyw sylwadau ddod i law erbyn 5pm dydd Sul 28 Ionawr 2024.

 

Newyddion Arall

Mae'r Cyngor yn parhau i wneud gwaith paratoi ar gyfer y CDLl newydd (2022 - 2037).

Mae'r gwaith o gasglu tystiolaeth yn cael ei wneud ar gyfer nifer o feysydd pwnc polisi allweddol fel asesiad anghenion cyflogaeth leol, asesiadau manwerthu, yr Iaith Gymraeg a seilwaith gwyrdd.  Mae angen y dystiolaeth hon i lywio opsiynau strategol ar gyfer y cam ymgynghori cyhoeddus y Strategaeth a Ffefrir yn y broses CDLl newydd.  Rhagwelir y bydd ymgynghoriad cyhoeddus y Strategaeth a Ffefrir yn cael ei gynnal ddiwedd Gwanwyn 2024.    

I'r rhai sydd â diddordeb mewn Safleoedd Ymgeisiol, mae cyflwyniadau'n cael eu hasesu yn unol â'r Fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol a Chanllawiau Hyfywedd Safleoedd y cytunwyd arnynt Safleoedd Ymgeisiol.  Bydd Cofrestr y Safleoedd Ymgeisiol yn cael ei gyhoeddi ar gyfer sylwadau ar yr un pryd â'r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir.

Bydd angen diweddaru'r amserlen ar gyfer paratoi y CDLl newydd, fel y manylwyd arno yn y Cytundeb Darparu cymeradwy, ar ddechrau 2024. 

Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y CDLl Newydd, gan gynnwys y digwyddiadau ymgynghori ac ymgysylltu, cofrestrwch yma: https://ldp.powys.gov.uk/login porth ymgynghori y CDLl Newydd.