Newyddion diweddaraf y Polisi Cynllunio
Diweddariad Awst 2025
Lansiad yr Ymgynghoriad: Angen Safle Newydd i Sipsiwn a Theithwyr
Mae Cyngor Sir Powys yn chwilio am safle 1.2 hectar i ddarparu ar gyfer safle sipsiwn a theithwyr newydd yn ardal Y Trallwng.
Nodwyd chwe safle posibl ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor yn Nhre'r Llai, Ffordun a'r Ystog, ac mae'r cyngor yn gofyn am farn ar y safleoedd posibl.
Mae'r Ymgynghoriad yn rhedeg rhwng 1 Medi 2025 a 22 Hydref 2025.
Nodwyd yr angen am y safle newydd, sy'n gorfod darparu ar gyfer 12 cartref symudol a bod â'r potensial i ehangu yn y dyfodol, fel rhan o waith ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd Powys 2022-2037.
Yn amodol ar ennill caniatâd cynllunio a'r cyllid sydd ar gael, disgwylir i'r safle newydd gael ei gwblhau erbyn 2027.
Mae'r Cyngor wedi ymchwilio i'w ddaliadau tir ei hun yng nghyffiniau Y Trallwng i weld a allai safle addas fod ar gael ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor ac wedi creu chwe opsiwn posibl ar y rhestr fer fel ardaloedd chwilio.
Mae'r Cyngor bellach yn ymgynghori ac yn gofyn am farn ar yr opsiynau hyn i lywio'r camau nesaf.
- Parsel 1 yn Nhre'r Llai, Y Trallwng - 7.83 ha - Adeiladau a thir yn Gwyns Barn, Tre'r Llai
- Parsel 2 yn Nhre'r Llai, Y Trallwng - 11.39 ha - Tir i'r de-orllewin o Severnleigh, Tre'r Llai
- Daliad Tir yn Nhre'r Llai, Y Trallwng - 47.12 ha - Adeiladau a thir yn Gwyns Barn, Tre'r Llai
- Parsel 1 yn Ffordun, Y Trallwng - 2.92 ha - Tir cyfagos â Phentref Ffordun - i'r gogledd o Church Farm/Church Farm Close, Ffordun
- Parsel 2 yn Ffordun, Y Trallwng - 3.6 ha - Tir oddi ar ffordd yr C2114, i'r de/de-orllewin o Church (gyferbyn â Pound Fields), Ffordun
- Daliad Tir yn Yr Ystog, Trefaldwyn - 8.26 ha - Pentref cyfagos â Phentref Yr Ystog - tir Fir House, Yr Ystog
Gellir dod o hyd i ddolen i'r ymgynghoriad yma: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/opsiynau-safleoedd
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn gwahodd cyflwyno safleoedd eraill (amgen) a allai fod yn addas ar gyfer leiniau cartrefi symudol i wasanaethu'r gymuned sipsiwn a theithwyr yn ardal y Trallwng.
Llety Sipsiwn a Theithwyr - Cwestiynau Cyffredin (PDF, 149 KB)
Diweddariad Ebrill 2025
Mae gwaith i baratoi cynllun newydd a fydd yn llywio graddfa a lleoliad datblygiadau newydd yn y sir yn y dyfodol yn parhau, meddai Cyngor Sir Powys.
Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl), a fydd yn cwmpasu Powys i gyd ac eithrio'r ardal ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (PCBB), yn nodi cynigion a pholisïau'r cyngor ar gyfer defnyddio tir i'w ddatblygu yn ei ardal yn y dyfodol.
Bydd yn cwmpasu cyfnod o 15 mlynedd hyd at 2037 a bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ar ôl ei fabwysiadu.
Mae'r cyngor wedi bod yn asesu ymatebion gan drigolion, busnesau, datblygwyr a rhanddeiliaid eraill yn dilyn yr ymgynghoriad ar Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd a, lle bo angen, adolygu'r elfen gychwynnol hon o'r cynllun sy'n sefydlu'r fframwaith strategol cyffredinol. Bydd unrhyw ddiwygiadau o'r strategaeth yn cael eu hymgorffori yn y Cynllun Adnau.
Mae'r cyngor hefyd yn parhau i asesu'r Safleoedd Ymgeisiol sydd wedi'u cyflwyno gan gynigwyr safleoedd i'w hystyried fel dyraniadau tai a safleoedd cyflogaeth. Bydd y safleoedd hyn yn cael eu hasesu a'u hidlo yn erbyn y Fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol (PDF, 409 KB) a gyhoeddwyd a'r cam nesaf fydd cynnal arfarniad cynaliadwyedd ar y safleoedd hynny sydd wedi pasio'r broses hidlo.
Mae'r cyngor nawr yn gweithio ar y cam nesaf i ddatblygu'r Strategaeth a Ffefrir yn y Cynllun Adnau cynhwysfawr, a fydd yn cynnwys y polisïau manwl i lywio sut y bydd datblygiadau'n cael eu rheoli ledled Powys. Bydd y Cynllun Adnau hefyd yn cynnwys y safleoedd a nodwyd fel y rhai mwyaf addas a chyflawnadwy i ddiwallu anghenion tai a busnes ardal CDLl Powys hyd at 2037.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn ddogfen allweddol a fydd yn llywio graddfa a lleoliad datblygiadau yn y sir yn y dyfodol.
"Ar ôl ymgynghoriad llwyddiannus a defnyddiol o'r Strategaeth a Ffefrir, gallwn symud ymlaen gyda'r hyder bod strategaeth y cynllun yn briodol i Bowys a byddwn yn gallu darparu digon o stoc dai, yn cefnogi ein heconomi ac yn mynd i'r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd."
Bydd gwaith ar y Cynllun Adnau yn parhau yn ystod gwanwyn a haf 2025, gyda'r bwriad o gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ddiwedd yr hydref pan fydd trigolion a rhanddeiliaid yn cael cyfle pellach i wneud sylwadau.
I gael gwybod am y datblygiadau parhaus yn y broses o baratoi'r CDLl Newydd, gallwch gofrestru eich diddordeb yn https://ldp.powys.gov.uk/cy/register/