Newyddion diweddaraf y Polisi Cynllunio
Mae'r Cyngor bellach wedi cyflwyno Cytundeb Cyflawni (CC) ar gyfer y Cynllun nesaf - Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys - i Lywodraeth Cymru i gytuno arno.
Mae'r Cyngor yn bwriadu dechrau gweithio ar y CDLl Newydd o haf 2022. Ar ôl ei gytuno, byddwn yn cyhoeddi'r CC cyn gynted ag y gallwn fel y gallwch weld yr amserlen baratoi a'r Cynllun Cynnwys y Gymuned ar gyfer y CDLl Newydd.
Adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol.
Mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi cynnal adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Powys a fabwysiadwyd (2011-2026) er mwyn diweddaru'r Cynllun a'r dystiolaeth ategol.
Mae'r adroddiad ar yr adolygiad yn cynnwys y wybodaeth a ddefnyddiwyd i fwydo'r adolygiad ac yn ystyried effaith y canfyddiadau ar y Cynllun. Mae hefyd yn nodi sut mae'n bwriadu diwygio'r Cynllun, gan ddod i'r casgliad mai'r ffordd orau i'w ddiwygio yw cynnal Adolygiad Llawn o Gynllun Datblygu Lleol Powys a fabwysiadwyd (2011-2026) trwy lunio Cynllun Datblygu Lleol newydd am y cyfnod 2022-2037.
Cafodd yr Adroddiad ar yr Adolygiad (PDF) [1MB] ei gymeradwyo gan Gabinet y Cyngor ar 22 Chwefror 2022 a'i anfon at Lywodraeth Cymru.
Bydd modd i'r cyhoedd weld yr Adroddiad hwn am y tro yn Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, LD1 6AA tra bydd y dderbynfa yn Neuadd y Sir ar gau i'r cyhoedd. Pan fydd wedi ail-agor i'r cyhoedd, bydd modd i'r cyhoedd fynd i brif swyddfa'r cyngor sef Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG - yn ystod oriau gwaith arferol, i ddarllen yr Adroddiad.
Cynllun Datblygu Lleol Newydd
Mae'n rhaid i'r Cyngor lunio Cynllun Datblygu Lleol newydd am y cyfnod 2022-2037 gyda'r bwriad i'w roi ar waith erbyn Mawrth 2026 pan fydd y CDLl cyfredol yn dod i ben. Y cam cyntaf oedd i lunio Cytundeb Cyflenwi rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn asesu'r Cytundeb Cyflenwi a gyflwynwyd sy'n nodi'r amserlen arfaethedig ar gyfer llunio'r Cynllun newydd, ynghyd â Chynllun Cynnwys Cymunedau sy'n sôn sut a phryd y bydd cyfle i gymunedau fod yn rhan o'r broses o lunio Cynllun newydd.
Cafodd y Cytundeb Cyflenwi ei gymeradwyo gan y Cyngor ar 3 Mawrth 2022 (gweler eitem 8 ar agenda'r Cyngor Sir). Bydd cytuno ar y Cytundeb Cyflenwi yn ddechrau ffurfiol ar y broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol newydd i ardal Powys. Pan fydd cytuno, bydd y Cytundeb Cyflenwi'n cael ei gyhoeddi ar y wefan hon a bydd modd i bobl ei ddarllen ym mhrif swyddfa'r Cyngor - Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG, yn ystod oriau gwaith arferol.