Adolygiad o laddiad domestig
Mae Adolygiadau o Laddiad Domestig (ALD) yn ofynnol yn ôl y gyfraith, a'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) sy'n gyfrifol amdanynt.
Pwrpas ALD yw ystyried yr amgylchiadau a arweiniodd at y lladdiad yn sgil trais domestig fel bod cyrff cyhoeddus a sefydliadau'r sector cymunedol a gwirfoddol yn gallu gweld ble gallai'r ymatebion i'r sefyllfa fod wedi bod yn well.
Nid yw ALD yn ceisio rhoi bai, ond yn hytrach mae'n ystyried beth ddigwyddodd a beth ellid fod wedi'i wneud yn wahanol.
Nid yw ALD yn cael ei wneud yn lle unrhyw gwest neu fath arall o ymholiad i'r lladdiad, ond yn hytrach mae'n ychwanegol iddynt.
Ar ôl cwblhau adolygiad, ac ar ôl i'r Swyddfa Gartref gytuno arno, caiff ei gyhoeddi a bydd ar gael ar-lein.
Pwrpas ALD yw:
Sefydlu pa wersi y gellir eu dysgu yn sgil y lladdiad domestig o ran y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol lleol a sefydliadau yn gweithio yn unigol ac ar y cyd i ddiogelu dioddefwyr
- Amlinellu'r gwersi hynny'n glir, a hynny o fewn asiantaethau a rhyngddynt, sut a phryd i weithredu ar y gwersi hynny, a beth ddylai newid o ganlyniad
- Rhoi'r gwersi hyn ar waith yn ymatebion gwasanaethau, gan gynnwys newidiadau i fwydo i bolisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol fel y bo'n briodol
- Atal trais domestig a lladdiadau domestig a gwella ymatebion gwasanaethau ar gyfer holl ddioddefwyr trais a chamdriniaeth domestig a'u plant drwy ddatblygu ymagwedd gydlynol, amlasiantaethol er mwyn sicrhau y caiff camdriniaeth ddomestig ei chanfod ac yr ymatebir iddi yn effeithiol y cyfle cyntaf posibl
- Cyfrannu at well dealltwriaeth o natur trais a chamdriniaeth domestig
- Amlygu arferion da
Ar ôl lladdiad domestig, mae'r heddlu perthnasol yn rhoi gwybod i'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) berthnasol am y digwyddiad yn ysgrifenedig.
Y PDC lleol sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol dros sefydlu adolygiad, am mai nhw sydd yn y lle gorau i gychwyn ALD a phanel adolygu.
|