Sut i gymryd rhan (Ceri)
Gallwch lawrlwytho copi o'r Gorchymyn drafft, y cynlluniau perthnasol a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn, o'r wefan hon neu gallwch eu gweld am ddim yn ystod oriau gwaith rhwng 12 Hydref 2017 tan 6 Tachwedd 2017, yn y mannau canlynol:
- Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG;
- Swyddfa Bost a Siop Ceri, Y Drenewydd, Powys SY16 4NU
Gall UNRHYW UN wrthwynebu gwneud y Gorchymyn hwn trwy ysgrifennu at y sawl sydd wedi arwyddo isod erbyn 6 Tachwedd 2017 fan bellaf, gan ddatgan ar ba sail rydych yn gwrthwynebu.
Sylwch: Os ydych am wrthwynebu, cefnogi neu anfon sylwadau, bydd y tîm prosiect yn ystyried eich gohebiaeth ac efallai bydd angen i ni ymgynghori â phobl a sefydliadau o du allan i'r Cyngor Sir. Fel rhan o'r broses o ymgynghori ag eraill, fe allwn anfon gwybodaeth atyn nhw, gan gynnwys gwybodaeth gennych chi a'ch data personol. Fodd bynnag, byddwn dim ond yn datgelu eich manylion personol os oes rhaid gwneud hynny er mwyn gallu mynd i'r afael â'r materion dan sylw.
Rheolwr Systemau Traffig a Diogelwch
Adran Draffig
Neuadd y Sir
Llandrindod
Powys
LD1 5LG