Y Cynnig (Y Trallwng)
Cynllun | Gorchymyn Cyngor Sir Powys (Amrywiol Strydoedd, Y Trallwng) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio) 2016 |
Lleoliad | Amrywiol Strydoedd, Y Trallwng, Powys |
Disgrifiad | Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig gwneud Gorchymyn traffig newydd i amrywio a chyflwyno cyfyngiadau aros a llwytho newydd ar rwydwaith ffyrdd sirol a chefnffyrdd yn Y Trallwng. Cynigir yr addasiadau yma er mwyn gwella llif y traffig trwy'r dref, gwella diogelwch y briffordd, atal parcio niwsans ar y troetffyrdd a'r llwybrau cerbydau a safoni amseroedd aros ar y briffordd. Nid yw'r cynnig yn ceisio cyflwyno cynllun trwydded parcio ar y stryd i drigolion y Trallwng gan fod y polisi yma'n dal yn y cyfnod treialu, ac nid yw ar gael hyd yma i'w gyflwyno i drefi eraill ym Mhowys. Mae'r cyfyngiadau aros a llwytho sy'n effeithio ar y cefnffyrdd yn cael eu gwneud ar ran Llywodraeth Cymru, yn rhinwedd ei grym fel Awdurdod Cefnffyrdd. |
Dogfennau:
Contacts
Feedback about a page here