Y Cynnig - Drenewydd
Cynllun | Tref Y Drenewydd - Adolygu cyfyngiadau parcio Dim Aros / Llwytho ar unrhyw adeg. |
Lleoliad | Amryw yn nhref Y Drenewydd |
Disgrifiad | Bwriad y cyfyngiadau aros/llwytho hyn yw sicrhau diogelwch ac hefyd i atal pobl rhag parcio ar y troedffyrdd a rhwystro cerddwyr. |
Gorchymyn (Amryw Strydoedd Y Drenewydd)(Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio)(Eithrio Deiliaid Trwyddedau Aros am gyfnod byr) 2015
Ar ôl i Gyngor Sir Powys gyflwyno Gorchymyn Gorfodi Sifil ar dramgwyddau parcio, daeth nifer o anghysondebau, diffygion a phroblemau parhaus i'r amlwg sy'n gysylltiedig â'r cyfyngiadau presennol ar lwytho a pharcio ar y stryd.
Derbyniwyd cais hefyd i arbrofi cynllun parcio i drigolion mewn sawl rhan o'r dref.
O ganlyniad, cynhaliwyd adolygiad yn Y Drenewydd o'r holl gyfyngiadau aros a llwytho ar y stryd ac ymgynghori â'r trigolion hynny fydd yn cael eu heffeithio gan y cynnig i gyflwyno parthau parcio i drigolion.
Erbyn hyn rydym yn cynnig nifer o newidiadau i wneud yn fawr o'r mannau parcio sydd ar gael ar y stryd; cael gwared ar fannau parcio a llwytho sy'n atal llif diogel y traffig a cherddwyr a fyddai fel arall yn cael eu peryglu gan barcio byrbwyll a niwsans; creu mannau llwytho penodol yng nghanol y dref ar gyfer cerbydau nwyddau; a chreu mannau parcio penodol i drigolion mewn dau barth i roi cyfle iddynt barcio heb gyfyngiadau amser os oes ganddynt drwyddedau addas.
Dogfennau:
Contacts
Feedback about a page here