Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Deilliannau - Drenewydd

Cyfarfu Pwyllgor Sir Drefaldwyn ar 3 Mehefin 2015 i ystyried y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori cyhoeddus.  Gallwch weld yr agenda a chofnodion y cyfarfod.

Cytunodd y pwyllgor i israddio'r cyfyngiadau arfaethedig yng nghyffiniau cyfagos Vaynor Store, Heol Vaynor a'r siop ar y Lower Canal Road i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid.  Mae'r cynlluniau diwygiedig yn dangos y cyfyngiadau aros a gymeradwywyd y tu allan i'r safleoedd hyn a gellir eu gweld ar y dogfennau PDF isod.

Cymeradwywyd yr holl gyfyngiadau aros a llwytho arfaethedig i'w gweithredu o fewn y dref fel y'i cynigwyd o dan y cam ymgynghori cyhoeddus.

Bydd yr awdurdod priffyrdd yn cyhoeddi'r gorchymyn traffig ac yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i'r marciau ar y ffordd a'r arwyddion cysylltiedig yn y dref maes o law.

 

Area Code CL190 (PDF) [264KB] Area Code CM190 (PDF) [336KB]
Area Code CQ186 (PDF) [339KB] Area Code CQ187 (PDF) [347KB]
Newtown order maps (PDF) [4MB] Newtown order definitions (PDF) [609KB]
Newtown prohibition order (PDF) [52KB]