Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut mae'r Cyngor yn gweithio gyda'r gymuned?

Panel Pobl Powys

Grwp o ryw 2,000 o bobl sy'n byw ym Mhowys ac sy'n fodlon bod yn rhan o ymgynghoriad ar waith y Cyngor yw'r Ymgynghoriadau ym Mhowys

Y Cyngor Sir sy'n arwain y broses yma, ond mae'r holl asiantaethau cyhoeddus yn rhan o'r broses, ac mae'r strategaeth yn ystyried pob agwedd ar fywyd yn y sir.

Sicrhau bod pobl leol yn cael llais, a bod gwasanaethau lleol, pwy bynnag sy'n eu darparu, yn cael eu cydlynu'n well yw nod y Strategaeth.  Bwriedir i'r broses rymuso'r gymuned a chaniatáu i bobl leol ddylanwadu ar y weledigaeth tymor hir ar gyfer Powys, gan gyfrannu eu barn ynghylch y ffordd y bydd adnoddau'n cael eu dyrannu dros y 10 i 15 mlynedd nesaf.



Panel y Dinasyddion

Grwp o ryw 1,000 o bobl sy'n byw ym Mhowys ac sy'n fodlon bod yn rhan o ymgynghoriad ar waith y Cyngor yw'r Panel Dinasyddion.

Rydym yn gofyn i aelodau'r panel am eu barn ar amrywiaeth o bynciau. Mae'r pynciau diweddar wedi cynnwys cyfathrebu, cydraddoldeb hiliol a'n Cynllun Gwella Corfforaethol. Mae'r ymgynghoriadau sydd ar y gweill yn cynnwys darpariaeth celfyddydau a glanhau strydoedd. Bydd pob aelod o'r panel yn cael ei gynnwys mewn pedwar prosiect ymgynghori bob blwyddyn, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn cynnwys llenwi holiadur sy'n cael ei anfon trwy e-bost neu drwy'r post.

Gwirfoddolwyr yw aelodau'r panel, ond byddant yn derbyn treuliau os oes rhaid iddyn nhw deithio i grwp ffocws neu gyfarfod arall.

Rydym yn awyddus i'r panel gynrychioli cymaint â phosibl o boblogaeth Powys.  Ar hyn o bryd mae angen rhagor o bobl dan 30 a rhagor o bobl sy'n siarad Cymraeg. Os hoffech gael eich cynnwys a derbyn gwahoddiadau i gymryd rhan o dro i dro, ticiwch y blwch ar broffil Fy Nghyfrif.