Toglo gwelededd dewislen symudol

Benthyciadau Gwella Cartrefi a Chymorth Ariannol

Os ydych chi'n landlord neu'n berchennog cartref, mae'n bosibl y gallwn ddarparu benthyciadau di-log ar eich cyfer i wneud gwelliannau i'r eiddo. 
Image of some tools

Gall gwelliannau gynnwys mesurau effeithlonrwydd ynni, atgyweirio diffygion a hyd yn oed ailddatblygu cartrefi gwag. Mae symiau'r benthyciadau a thelerau'r ad-dalu'n dibynnu ar y math o waith sydd dan sylw, ac fe allent gynnwys ffi brosesu. Darllenwch y  daflen ffeithiau cyllid (PDF) [420KB] a chyngor am wybodaeth ddefnyddiol.

Benthyciadau i wella cartrefi

Trwy arian gan Lywodraeth Cymru, diben y cynllun yw cynnig benthyciadau tymor byr i ganolig i helpu perchnogion cartrefi i wella cyflwr eu heiddo preswyl.  Mae'n bosibl ystyried benthyciadau hyd at £5,000 fesul uned i dalu costau gwaith sy'n angenrheidiol i wneud eich cartref yn 'ddiogel, cynnes a sicr' megis gosod to newydd.  Ni fydd unrhyw log ar y benthyciadau, ond bydd yna ffi fechan i dalu costau gweinyddu.  Hefyd bydd angen pasio asesiad fforddiadwyedd i sicrhau bod ymgeiswyr yn gallu fforddio talu'r ad-daliadau.

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais amdano, cysylltwch â Chronfa Banc Cymunedol Robert Owen ar 01686 626234

Fodd bynnag, os ydych chi'n edrych am rywbeth i wella effeithlonrwydd ynni eich cartref, er enghraifft, inswleiddio, yna mae'n bosibl bod arian grant ar gael trwy gyrff eraill fel Llywodraeth Cymru neu eich darparwr ynni. Argymhellwn eich bod yn holi am grantiau o'r fath cyn gwneud cais am unrhyw fenthyciad. 

Anabl ac yn chwilio am grant i addasu eich cartref: Grantiau Chyfleusterau i Bobl Anabl (DFGs) a Grantiau Mân Addasiadau (Mags)

ECO 4

Bellach, mae Cyngor Sir Powys yn cymryd rhan yn "ECO 4", y cynllun grant cenedlaethol a ariennir gan y 'Energy Company Obligation (ECO), a gynlluniwyd i helpu aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd.  Gall helpu i ddarparu gwelliannau insiwleiddio a gwresogi i denantiaid preifat neu berchnogion sy'n byw yn eu heiddio ar incwm isel neu fudd-daliadau sy'n byw mewn cartref sy'n aneffeithlon o ran ynni.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth: Cynllun Arbed Ynni Powys

Gellir gweld copi o'n datganiad o fwriad cyfredol (fersiwn V.2) yma (PDF) [332KB]

Nid yw Cymhwysedd a Datganiad gan Gyngor Sir Powys yn gwarantu y bydd mesur yn cael ei osod yn eich cartref, gan mai'r gosodwr a'r cyflenwyr ynni fydd yn penderfynu'n derfynol a fydd cyllid ar gael.

Gellir gweld copi o'n datganiad o fwriad cyfredol (fersiwn V.1) yma (PDF) [121KB] Dyddiad tynnu'n ôl - 08/09/2023

Gellir gweld copi o'n datganiad o fwriad (fersiwn 3) yma (PDF) [333KB] Dyddiad tynnu'n ôl - 11/10/2022

Gellir gweld copi o'n datganiad o fwriad cyfredol (fersiwn 2) yma (PDF) [357KB] Dyddiad tynnu'n ôl - 17/5/2021 

Gellir dod o hyd i gopi o'r "datganiad o fwriad" sydd wedi'i dynnu'n ôl yma (PDF) [108KB]. Dyddiad tynnu'n ôl - 28/9/2018 

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau